Tudalen:Cymru fu.djvu/434

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddyddan at gariadon—breuddwydion a d'weyd ffortun. Yr oedd fy nghyfeilles yn gwybod y cwbl am rinweddau y ffynon, ac yn adnabod llancesau fuont yn ceisio meddyginiaeth YN Y DWFR NESAF ATO, am fod tywod er's llawer dydd wedi gôrchuddio y llygedyn dwfr am yr hwn y byddai cariadon yn sychedu gymaint yn yr hen amser. Gresyn na buasai Ffynon Dwynwen yn llifo eto, a Ffynon Elian yn ei lle wedi ei chladdu gan dywod.

Y GWIBEROD

GAN GLASYNYS

1.—GWIBER PENHESGYN

Yr oedd mewn lle yn Mon a elwir Penhesgyn, yn yr hen amser, wr a gwraig yn byw, ac iddynt bu un mab, ac efe wrth gwrs oedd yr etifedd; ac os gwir y chwedl, etifeddiaeth fawr oedd iddo. Rhyw ddiwrnod, fodd bynag, fe ddychrynwyd y rhieni gan ddaroganiad rhyw ŵr cyfarwydd. Dywedai ef y codai gwiber ar dir Penhesgyn a frddai'n sicr o fod yn achos angau'r etifedd; a chyn pen hir, clybuwyd fod yr anghenfil wedi gwneud ei hymddangosiad mewn dyryslwyn gerllaw, Anfonwyd y bachgen yn ebrwydd yn ddigon pell fel na chaffai'r wiber ddim siawns i wneud ei frâd ef; aethpwyd ag ef i eigion Lloegr. Yn y bryn cyfagos yr oedd y wiber, a mawr oedd ofnad y bobl o'i herwydd, a llawer fu'r dychymygu pa fodd y lleddid hi. O'r diwedd, daeth un hen fachgen hirben i'r penderfyniad fod ganddo ef lwybr difai i'w lladd; a thyma'r ffordd a gymerodd. Aethi gae gerllaw, a thiriodd dwll dwfn yn y ddaear—twll crwn o drawsfesur penodol, ac yna cymerth badell bres fawr, a rhoes hi a'i gwyneb yn isaf ar y twll a gloddiodd. Pan welodd y wiber y pres yn dysgleinio, cynhyrfodd, ac ymaith a hi ato, a gwnaeth ymosodiadau egniol ar y badell am hir amser, nes o'r diwedd iddi lwyr ddiffygio. Yna aed ati, a gorphenwyd ei lladd, a chladd- wyd hi gyda llawenydd yn y bryn lle yr arferai fod o'r blaen yn ddychryn i bawb. Ar ol hyn gyrwyd am etifedd Penhesgyn i ddod adref, gan fodd ei elynes wenwynig wedi ei lladd a'i chladdu; ac adref y daeth yn un cawr, gan fod yr hyn a ofnai wedi darfod am dani. Ar ol bod gartref am dipyn, nid oedd na byw na bywyd i neb os na chai ef