Tudalen:Cymru fu.djvu/435

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weled ysgerbwd yr hen wiber, os oedd dim ohoni ar gael, a mynodd gael agor ei bedd. Gwnawd hyny, ac nid oedd yn aros o honi ddim ond asgwrn y pen. Pan welodd y dyn ieuanc ei phenglog, rhoes gic i'r asgwrn, a gwaeddai yn llawen, "Tydi yn wir fy lladd! yr hen ysgerbwd gwael." Ond gan nad oedd ganddo am ei draed ond esgidiau pur deneuon, a chan iddo yntau roi cic tra egniol, aeth darn o'r asgwrn truy gefn ei esgyd, a thorodd friw bychan ar fawd ei droed, medd rhai; ar gefn ei droed, medd eraill; a bu farw'r dyn ieuanc mewn canlyniad i hyn. Ac felly fe ddaeth geiriau'r gŵr cyfarwydd i ben, sef mai Gwiber fyddai'n angau i etifedd Penhesgyn

2.—GWIBER MOWDDWY

Ryw bryd gynt, gerllaw y Dugoed, yr oedd gwiber fawr ddolenog yn cyflawni peth wmbreth o ysgelerderau; a phawb yn ei hofni oherwydd ei maint a'i gwenwyn echrydus. Ond un diwrnod, rhoes un o drigolion hirben y lle ei feddwl ar waith pa fodd i'w dinystrio, a gwnaeth y cynyg canlynol. Canfu fod rhyw gasineb greddfol rhwng y Wiber â phob peth o liw coch, a pha beth a wnaeth ond gosod i fynu bren wedi ei bicellu yn dda, a thaenodd bais goch yn dô drosto. Pan welodd y Wiber y lliw annymunol, hi a gythruddodd yn gynddeiriog, ac ato yr aeth heb oedi, gan ymosod arno gyda'i holl nerth; ond pa fwyaf nerthol yr ymosodai'r Wiber, dyfnaf yn y byd yr ai'r picellau i'w chnawd, ac with geisio malu y bais goch fe laddodd y Wiber ei hun.

3.—GWIBER COED Y MOCH

BYDDAI ar yr hen bobl ofn ddydd a nos yn Nghoed y Moch, a'r achos o hyny sydd amlwg. Yn y nos byddid yn dysgwyl yn ofnus am glywed swn erchyll ysgrechfeydd aflafar cythreuliaid corniog o gwmpas Ceubren yr Ellyll, ac yn y dydd drachefn byddai'r Wiber yn gwybetta, ac yn barod bob munyd i ddod ar draws y neb a ddeuai'n agos i Goed y Moch. Byddai ambell dro yn tor-heulo yn ddiog ar lan Llyn Cynwch, ac ar brydiau eraill gellid ei gweled yn ymlusgo draw ac yma hyd lethrau Moel Othrwm, ac yn bwrw y llysnafedd glafoeriog sydd erbyn hyn yn gruglwyth gwenwynig ar leppen y mynydd. Creadur bwytteig ofnadwy oedd y Wiber; byddai yn llyncu oen yn ei gorpholaeth ar droiau, ac am ffrwythydd, nid oedd digon iddi hi i'w gael. Tybia rhai iddi ladd llawer dafad, ac yna llusgo'r ysgerbwd at goeden, a chylymu ei hun am un