Tudalen:Cymru fu.djvu/436

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gangen, a gosod y ddafad cyd-rhyngddi â'r pren, ac yra dirwyn am dani nes malurio'r esgyrn yn siwtrws mân. Ond yr oedd un hen law yn byw yn y Ganllwyd ag arno flys mawr gwneud pen arni. Bu yn hir iawn yn dyfeisio pa fodd y dygai ei amcan i ben, ac yr oedd ef yn cael ei ystyried yn rhywbeth uwchlaw y cyffredin yn y parthau hyn; mewn gair efe oedd gŵr cyfarwydd y fro. Yr oedd Arglwydd Nannau wedi cynyg tri ugain muwch i bwy bynag a'i lladdai, ac yr oedd eraill yn cynyg eu rhoddion gwobr am y gamp ofnadwy. Fel yr oedd y Wiber yn myned yn hynach yr oedd ei lladd hi yn beth anhawddach, ac felly yr oedd hi yn rhywyr glas cynllunio rhyw lwybr ymwared.

Byddai yn gallu hud-ddenu creaduriaid ati. Os edrychai yn llygaid unrhyw greadur, ni fedrai ddianc o'i gafael. Yr un fath ag y bydd pry'r ganwyll, er gwibio o amgylch-ogylch, ei ddiwedd fydd—fe fyn fyned i fflam y ganwyll, felly yn union pob creadur a welai lygaid y wiber swyn-hudid ef ati rhag blaen. Yr oedd felly yn fil anħawddach ei difrodi o herwydd hyn. Fodd bynag, yr oedd yr hen ddewin Llwyd o'r Ganllwyd wrthi yn parotoi am ei dihenydd. Cynygiodd unwaith am ei gwaed trwy gyflogi cryn ddwsin o Wylliaid Cochion Mowddwy, y rhai a ystyrid y saethwyr cywiraf yn y wlad, ond ni fedrwyd cael un golwg ar yr anghenfil erchyll yr amser hono, ac felly ni ddaethpwyd i ddim gwell pen yn y diwedd. Ond gan fod y tri ugain buwch yn wobr fawr, a llawer un mewd digon o eisiau'r cyfryw, daeth un o fugeiliaid Cwm Blaen y Glyn i lawr, ar fedr treio ei law. Nid oedd hwn ond llafn o lanc ystwythgryf, prin wedi cyrhaedd ei un ar hugain oed, a chan nad oedd yn foddlon i neb wybod ei hynt rhag ofn iddo fethu yn ei gais, aeth ymaith i chwilio am y Wiber yn ddystaw bach heb ddweud dim gair wrth neb dyn na dynes, ond wrth Ellyw merch yr Hafod-fraith. Yr oedd hono yn y cwnsel. Cychwynodd oddi cartref, ar ol cael cunogiad o faidd, i wylied ei thramwy hefo'i ddau gi. Yr oedd hyn yn beth pur ryfygus, oblegyd yr oedd Dewin y Ganllwyd wedi rhagfynegi mai celain gegoer fyddai pwy bynag a ai yn agos ati heb wisg ddur neu lurig am dano: ond y Bugail o'r Cwm ni faliai fawr yn ei eiriau, oherwydd yr oedd cael y tri ugain buwch i ddechreu byw yn benaf peth ei feddwl.

Cafodd ei brisg yn lled fuan, heb fod yn mhell o Lyn Cynwch, a dilynodd hwnw'n llechwraidd; ac o'r diwedd gwelai'ranghenfil yn cysgu'n dawel o dan berthen o ddrain