Tudalen:Cymru fu.djvu/437

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwynion. Yr oedd y ddraenen wen yn un gynfas o flodau, a gwyddai'r dyn ieuanc nad oedd dim ar y ddaear las yn well am feddwi'r anghenfil hefo chwsg na sawyr trymllyd y nwy a wasgara'r ddraenen. Aeth yn ol o'i golwg, yn llawn myfyr a chynllun; ond pan yn encilio, tarawodd rhywbeth yn ei ben, os y gallai gael bwyall yn rhywle y medrai ladd y wiber; ac felly gael y tri ugain muwch a phriodi Ellyw, a rhoddi buches iddi yn waddol briodas. (Ac yn wir yr oedd Ellyw wedi cadw ei fywyd ef cyn hyn, pan unwaith oeddynt yn chwilio am eu defaid yn y lluwchfeydd, syrthiodd ef i luwchfa ac ni ddeuasai allan ychwaith oni buasai iddi hi, trwy ei diwydrwydd serchog, dirio i lawr ar ei ol, ac felly rhoi chwareu teg iddo i anadlu.) Tarawodd yn sydyn yn ei ben mai'r ffordd oreu oedd rhedeg i Fynachlog y Fanner, oblegyd gwyddai y cai yno fwyall iawn, ac hefyd "ollyngdod" rhag ofn digwydd y gwaethaf. Prysurodd yno: cafodd y ddau beth a geisiai, sef "gollyngdod" a bwyall, a dychwelodd yn ei ol gyn gynted ag y medrai: tynodd am ei draed yn mhell cyn d'od at y ddraenen; yna yn mlaen yr aeth gan deimlo awch min ei erfyn hefo'i fawd, a theimlo ambell ias oer hefyd o ofn ond odid.

O'r diwedd daeth i olwg y Wiber, a gwelai hi yn uniondeg fel ag ei gadawodd yn dorchau swith. Araf nesäodd, a phan oedd yn codi ei fwyall i'w tharo cil-agorodd hi un llygad, ond cauodd ef yn ebrwydd, a chyn iddi gael amser i ail-agoryd y naill na'r llall yr oedd min y fwyall wedi treiddio trwy ei phenglog, a'r bugail yn dianc ymaith o gyrhaedd ei llosgwrn: ond cyrhaeddodd ef er hyny yn greulon, nes yr oedd yn ymdreiglo o dan bwys y dyrnod, Pan ar ei hyd gyd, teimlai iasau oerion yn dyfod drosto, ac nis gwyddai yn iawn pa'r un ai byw ai marw ydoedd; ond o dipyn i beth dadebrodd, a gwelai'r anghenfil yn eithaf llonydd. Ar ol gwneud gwyden, cylymodd hono am ei chanol, a llusgodd y wiber tua neuadd Nannau, ond methodd a'i thynu yn mhell, a bu raid iddo fyned tua'r lle hebddi. Hysbyswyd y boneddwr pa beth oedd wedi digwydd, a mawr oedd y llawenydd, aed i'r fan a'r lle, a chaed yr anghenfil yno yn ddigon marw; a mawr oedd llondid pob goppa walltog oddigerth Dewin y Ganllwyd, o herwydd teimlai yr hen law fod dewrder eondra wedi llwyr guro ei ysgil ddewinol ef. Cafodd y bugail ei dri ugain buwch yn rhodd, a rhoes pawb eu hewyllys da yn ol cyfraith cymhortha. Claddwyd y Wiber mewn bryn gerllaw i'r fan ei lladdwyd, a chodwyd carnedd anferth