Tudalen:Cymru fu.djvu/438

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arni, a galwyd y bryn fyth wedi hyn yn Fryn y Wiber, a'r garnedd yn Garnedu bedd y Wiber. Aeth y bugail at yr Hafodfraith yn dalog i ddangos ei hun i Ellyw, ond erbyn cyrhaedd yno nid oedd Ellyw gartref, yr oedd wedi myned i edrych am ei chwaer dros y mynydd. Yr oedd hi yn bur niwliog, a thrbiai ei rhieni na ddeuai adref y noson hono oherwydd fod yr hin mor anffafriol, ond ymddengys iddi hi, er hyny, fynu cychwyn gyda'r tywyllnos, a cherdded a wnaeth drwy'r nos; collodd y ffordd yn fuan, a cherdded a phystodi drwy fawnogydd a siglenydd y bu hi. Ni wyddai ddim yn mha le yr oedd, er hyny yn mlaen yr ymlwybrai heb un cydymaith byw yn agos ati, nes iddi o'r diwedd du'od ar draws nyth iâr fynydd. Cododd hono wedi dychryn, a thyna'r unig greadur a welsai, neu yn hytrach a glowsai, yn ei llwybr diarffordd. Cyn pen ychydig o fynydau aeth wedyn i ganol siglen neu donnen, ac yno'r oedd heb allu d'od allan: pob cais a wnai i lawr yr elai, nes o'r diwedd yr oedd wedi suddo hyd at ei cheseiliau. Yn awr dechreuodu adrodd y Pader o ddifrif, a daeth Meredydd i'w meddwl. Ai wedyn i'r Hafodfraith; gwelai ei thad a'i mam, a thorodd allan i wylo, ac yn nyfnder trallod ocheneidiai ei chalon. Pan yn y trybini meddyliol ofnadwy hwn clywai ryw dwrf, ond coeliai nad oedd y cwbl ond ffansi. Yr oedd yn oeri yn brysur, oblegyd dwfr neillduol o fferllyd ydyw gofer siglen; a cheisiai wueud ei henaid yn dawel i wynebu'r byd tragwyddol. Pan yn ceisio bloesg lefaru, "O! na fuasai yn bosibl i Bedo wybod lle'r wyf," dyma rywun yn gwaeddi nerth esgyrn ei ben, "Ellyw, Ellyw," a phwy oedd yno wedi bod yn crwydro trwy gydol y nos ond Bedo druan. Cychwynodd i fyned i gyfarfod Ellyw o'r Hafodfraith, a phenderfynodd 'os na ddeuai hi i'w gyfarfod ar y ffordd, fyned i dy ei chwaer i ddweud withi fod y Wiber wedi ei lladd, a bod ganddo dri ugain muwch at ddechreu byw, ac yna nid oedd dim bellach yn eisiau ond pennu'r diwrnod priodas. Ac fel y mae pethau yn mynu bol, collodd y ffordd yn glir faes. Ond yn ei fyw nis medrai beidio gwaeddi “Ellyw," a phan oedd efe fel hyn yn ei ddyryswch, clywai rywryderst bloesg, ac adnabu lais main yr hon a garai. Prysurodd at y lle yr oedd y llais, ac o fedd anamserol—o fonwes oer y siglen fferllyd, medrodd o'r diwedd lusgo allan ei Ellyw gariadus. Er ei bod yu haner marw, yr oedd hi iddo ef yn fywyd gwir. Ar ol gwneud ei oreu i'w glanhau a'i chynesu, cludodd hi ymaith ar ei gefn wedi rhoddi o hono ei ddillad ei hun an dani. Cyn pen hir