Tudalen:Cymru fu.djvu/439

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

torodd y wawr, a chwalodd y niwl, ac erbyn y plygain yr oedd y ddau wedi cyrhaedd yr Hafodfraith, ac yr. ddiddadl mawr oedd y llawenydd yno. Er iddi hi deimlo am ddeuddydd neu dri oddiwrth yr anghaffael, eto, buan y daeth yr eneth galed ac iachus ati ei hun. Priodwyd y ddau, a bu iddynt genhedlaeth gref; ac oherwydd iddo ef wneud y gwrhydri mawr o ladd y Wiber, daeth i sylw'r gwyr o gyfoeth, ac aeth ei hun yn gyfoethog iawn. do fel Meredydd neu Bedo'r bugail, yn ddewr ëon a phenderfynol y bu ei dylwyth am oesoedd, a daeth rhai o'i eppil i arfer pais arfau, ac arni yr oedd, "Gwiber, bwyall, a ffon bugail, ar faes glas." A thyna ddywed traddodiadau'r mynyddoedd am helynt Gwiber Coed y Moch.

4.-GWIBER LLECHCYNFARWY.

Yr oedd, rhyw dri-ugain mlynedd yn ol, mwy neu lai, Wiber yn mhlwyf Llechcynfarwy. Byddai ar y trigolion ei hofn a'i harswyd yn barhaus. Yn wir, yr ydoedd wedi creu dychryn drwy'r rhan hono yn gyffredinol. Llawer a fu'r dyfeisio pa fodd i'w lladd, ond rywfodd nid oedd fawr o lwydd ar y gwaith. Yno'r oedd y faeden yn tor-heulo'n dawel. Ond, ryw ddiwrnod daeth i ben llanc o ôf i wneud cais am ei lladd. Gwnaeth bastwn pwrpasol; blaenllywodd ef yn ddeheuig, ac yn y Gwanwyn—tua'r Pasg, penderfynodd roddi ei gais mewn grym. Dydd Sul y Pasg oedd y diwrnod. Aeth i'r Eglwys yn y bore, a chymerodd ei gymun, ac yn y prydnawn aeth i chwilio am y Wiber. Cafodd hyd iddi yn dorchau o gwmpas cricyn o gareg, ac aeth ati yn hyderus. Cynygiodd ddyrnod iddi, ond rywsut ni chyffyrddodd mohoni, ac fel y bu gwaethaf yr anlwc torodd ei bastwn yn ddau ddarn. Troes y Wiber ato, a ffodd yntau. Dilynai hithau ef; parhau i redeg yn ei flaen oedd, a chan arfer y darn pren hefug un llaw oreu y gallai i'w churo yn ei hol, cyrhaeddodd wal gerig, a medrodd neidio dros hwnw cyn iddi allu ei oddiweddyd. Pan gafodd fod am y clawdd â hi, troes i edrych yn ei ol, a gwelai er ei fawr lawenydd y Wiber yn gwaedu yn ei thòr. Yna ail-feddyliodd am orphen ei waith, ac ati yr aeth hefo'r darn pren, a churodd hi yn ei phen nes y lladdodd hi.

Ac felly bu diwedd Gwiber Llechcynfarwy. Enw y dyn a wnaeth hyn oedd Owen Tomos Rolant, yr hwn a fu ar ol hyn yn bregethwr hefo'r Methodistiaid Calfinaidd yn Môn, ac y mae crybwylliad am y digwyddiad hwn yn Methodistiaeth Cymru, gan y diweddar Barch J. Hughes, Llerpwl