Tudalen:Cymru fu.djvu/441

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Wiber Nant, neu Nant y Wibher. Yr oedd yr afanc yn greadur difirodus enbyd, a pha beth a wnaed ond bachu yr ychain banog wrtho, a'i lusgo o'i lyn ei hun yr holl ffordd i Lyn Llydaw yn y Wyddfa, tua'r un adeg gwnaed cais i ddistrywio'r wiber hefyd, oblegyd yr oedd yn berygl bywyd myned yn agos at y lle. Ni wyddai y trigolion ar faes medion y ddaear pa fodd y caent ymwared rhagddi, oblegyd blinai hwynt yn ddi-dor-derfyn, ac yr oedd un peth yn perthyn i'r Wiber hon na feddai yr un o'r lleill mo hono.

Gallai fyw yn y dwfr fel ar y tir, a phan bwysid arni naill ai gan ddynion neu rywbeth arall byddai yn hwylus newid ei sefyllfa. Bu felly am ugeiniau os nad canoedd o flynyddoedd, ebe Edward Llwyd, yn cyflawni direidi. ac yn peri poen a blinder. Ond un o Wylliaid Hiraethog wedi blino clywed pobl yn son ac yn rhuo yn nghylch y Wiber, a benderfynodd fynu ei lladd deued a ddelai.

Cyn dechreu ar ei orchwyl anturus, aeth heibio i ryw hen Ddewin, ag oedd yn byw mewn bwthyn unig ar ei ffordd i ofyn tesni ganddo. "Pa fath farwolaeth fydd i mi?" ebai, yn bur geiliogaidd. "Gwiber a'th frath," ebai'r Dewin. Ofnodd pan glywodd, a rhoes ei antur i fynu. Yn mhen tipyn o amser drachefn aeth at yr un hen Ddewin, mewn gwedd a dull gwahanol, a gofynodd iddo'r un gofyniad. Atebodd yntau, "Torri dy wddf a wnei." Yntau a aeth ymaith gan gilwenu am ben mor amryw oedd chwedl y Dewin. Cyn pen rhyw lawer iawn aeth yno wed'yn a gofynodd rywbeth i'r un perwyl ag a wnaeth v ddau dro cynt. Cafodd ateb, "Boddi a wnei." Chwarddodd y Gwylliad dros bob man am ben anghysondeb dywediadau'r Dewin, a dywedodd wrtho, "Pa fodd y mae'n ddichonadwy i mi gael fy lladd gan wiber, torri fy ngwddf, a boddi?". "Amser a ddengys, amser a ddengys", atebai'r Dewin yn bur ddigyffro. Aeth y Gwylliad ymaith ar lwyr fedr cael gornest hefo'r Wiber. Aeth i'r Nant ac yna y bu yn dyfal geisio y bwysfil gwenwynig: O'r diwedd ar lethr serth pan yn ymgreinio yn mlaen hyd risyn ar fron clogwyn: uwch ei ben dyma'r Wiber yn nesu ato a brathodd ef yn enbyd yn ei law. Pan yn y bang syrthiodd ryw swm o latheni i lawr, ac yna ar ei ail godwm ymgladdodd mewn corbwll dwfn, ac felly daeth y tri pheth i ben yn ol gair y Dewin. Ar ol i'r si fyned ar led am y digwyddiad, ffyrnigodd y Gwylliaid fwy nag erioed o herwydd weithred hon, a phenderfynasant wneud cais o'r newydd, ac felly y gwnaed; a saethodd rywun y Wiber