Tudalen:Cymru fu.djvu/442

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond nid oedd ddim un mymryn gwaeth. Aeth i'r afon a gwellhaodd ei harchollion yn ebrwydd, ac yno'r arhosodd am lawer o amseroedd meithion ar ol hyn, a daethpwyd i gredu yn ddilys fod rhywbeth yno heblaw Gwiber, a buwyd yn sôn am hir a hwyr am dani. Ond erbyn hyn y mae ei hoes wedi darfod, ac nid oes dim cof am dani oddigerth yr afon fyddarllyd yn neidio hyd y creigleoedd, yr hon a fedr, pe mynai, adrodd y pethau fu yn ddifloesgni wrth y rhai sydd,—nid oes ond yr afon yn gof o Wiber y Nant.

Dyna ddigon o lên y Gwiberod, er fod ugeiniau o chwedlau lled gyffelyb ar hyd a lled Cymru.

(FEL Attodiad i "LEN Y GWIBEROD," dodwn yr hanes canlynol a dderbyniasom oddiwrth Mr. E. Evans, Cynwyd; diau fod hanes llawer Gwiber yn gorwedd ar gyffelyb sail i hanes y Wiber hon.-GOL.)

7.-GWIBER LLANDRILLO

Er's oddeutu haner cant o flynyddoedd yn ol, aeth y gair ar led trwy gymydogaeth Llandrillo yn Edeyrnion fod Gwiber yn cartrefu mewn llwyn yn yr ardal hono, yn agos i le a elwir Plas y Faerdref. Derbynid y newydd ar y cyntaf gydag anmheuaeth, ond gan fod amryw o wyn a mân greaduriaid wedi meirw trwy, fel y credid, ei brathiadau gwenwynig; a bod llawer o bobl eirwir wedi gweled rhywbeth yn ehedeg o gwmpas yr ardal hono ag iddo gorph hir ac adenydd byrion, a thybient hefyd pan arafai ychydig eu bod yn canfod rhyw gèn symudliw hardd i gyd trosto, a bod iddo lygaid fel fflam dân yn ymsaethu trwyddynt; nid oedd neb yn y gymydogaeth yn ddigon rhrfygus i wadu y ffaith.

Cyn hir, yr oedd pwnc y Wiber wedi dyfod mor bwysig, fel mai dyna oedd byrdwn pob stori. Ymddiddenid am dani gyda sobrwydd yn yr efail, a siop y crydd; a phryd bynag y cyfarfyddai dau gymydog a'u gilydd, odid fawr nad y Wiber fyddai testyn yr ymddiddan. Dyna mewn gwirionedd oedd pwnc y dydd, a'r nos hefyd. Yr oedd yn amlwg hefyd fod yn rhaid gwneud rhywbeth heblaw siarad, canys er mor finiog ydyw y tafod, yr oedd yn amlwg nas gallasai ladd y Wiber. Penderfynwyd galw cynadledd o hynafgwyr a doethorion yr ardal. Wedi dwys ystyried y pwnc, daeth y cynghor rhyfel i'r penderfyniad o benodi diwrnod i wneud ymosodiad cyffredinol ar