Tudalen:Cymru fu.djvu/443

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gelyn. Ac wedi hir ddisgwyl daeth y diwrnod penodedig—diwrnod pwysig oedd hwn ar lawer ystyriaeth. Teimlai llawer mam y pryder dwysaf oherwydd y peryglon yr oedd yn rhaid i'w mab fyned trwyddynt cyn machlud haul; a llawer morwyn landeg a roddai aml i ochenaid ar ran ei chariad. Y diwrnod hwn yr oedd dewrder llanciau y fro i gael ei brofi, a'r gwroldeb hwn yr honai llawer eu bod yn feddianol arno i gael ei ddadblygu. Mewn gair yr oedd dedwyddwch yr ardal yn dybynu yn hollol ar weithrediadau y dydd hwn.

Yn fore iawn, cyn i'r haul ddyfod yn iawn allan o'i ystafell, dyma y fyddin yn cychwyn gan gerdded yn araf eto yn benderfynol at lan yr afon Dyfrdwy. Dyna y fan oedd wedi ei benodi fel maes y frwydr. Yr oedd yn y fyddin hon amrywiaeth mawr, rhai o bob oed a gradd; ac ambell hen batriarch pentyn mewn angen ffon, ond eto yn ddigon gwrol-calon y dydd hwn i fyned hebddi. Ond pa amrywiaeth bynag oedd yn y fyddin, yr oedd mwy yn yr arfau, y rhai yn benaf oeddynt bigffyrch, crymanau, &c., ac ambell hen frawd wedi dyfod o hyd i'r fwyall, gan yr ystyrid y cyfryw arf fel y mwyaf pwrpasol. Mor fuan ag r cyrhaeddodd y fyddin i lan y Dyfrdwy, gosodwyd baner goch i fynu, yn yr hon yr oedd picellau wedi eu gwlychu mewn gwenwyn. Amcan y faner goch oedd hudo y Wiber, oddiar ei chasineb at bob peth coch, i ymguro yn erbyn ei chasbeth, ac felly anafu ei hun. Ond er disgwyl yn bryderus an oriau ni wnaeth y wiber ei hymddangosiad; a pheuderfynodd llywyddion galluog y gàd, mai y doethaf oedd i bawb fyned' ir fau, a phenu diwrnod arall i ail Enrg am frwydr.

Ond cyn i'r diwrnod hwnw ddyfod, fe ddigwyddodd i rywun ddyfod i'r gymrdogaeth oedd wedi gweled mwy o'r byd a'i greaduriaid na'r cyffredin; a thrwy rhyw ddamwain, cafodd olwg ar y Wiber, a hysbysodd y trigolion dychrynedig, er mawr ryddhad iddynt, nad oedd y Wiber yn ddim amgen na CHEILIOG PHEASANT.

Deallwyd wed'yn mai wedi dianc o Wynnstar yr oedd yr aderyn diniwaid, ac wedi crwydro gan belled â Llandrillo, lle na welwyd yr un erioed o'r blaen. A dyna'r hanes a'r helynt a fu gyda Gwiber Llandrillo.