Tudalen:Cymru fu.djvu/444

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y FOR-FORWYN.

GAN GLASYNYS.

Yr oedd Ifan Morgan yn hoff iawn o fod tua glan y môr Sul, Gwyl, a Gwaith; cyn i'r wawr landeg fritho'r dwyrain, ac adar boreuaf y gwigoedd ddeffro, byddai ef yn hwylio at y feisdon. Yr oedd hon yn hen arfer gan ei dad a'i deidiau, oblegyd, mor bell ag y medrai cof fyned, nid oedd neb yn cofio'r un o'r tylwyth yn gwneud dim ond pysgotta ambell dro, a gwylio'r glanau. Ac nid oedd Ifan Morgan ddim wedi newid dim oddiwrth y rhelyw o'i deulu. Byddai yntau yn awr ac eilwaith yn myned allan i'r môr i ddal mecryll yn eu hamser, neu benwaig pan ddelent i'r parthau: ond mwy dymunol ganwaith ganddo, er hyny, oedd rhodio ar hyd glan y môr i edrych pa betha gaffai gan ei "Ewyrth Dafydd Jones," (oblegyd fel yna y galwai ef, a'i deulu o'i flaen, y môr bob amser). Un bore, yr oedd Ifan ar lasiad y dydd yn ymyl ogofau mawrion sydd yn ymledu o dan y bryn sydd ar fin y weilgi fawr, heb weled dim argoel am yr hyn a geisiai. Aeth i mewn yn araf deg i'r ogof, a elwid gan bobl glan y môr yn "Ogof Deio," oblegyd yn hono byddai un o'r hen deulu yn byw a bod y rhan fwyaf o'i amser, ac yr oedd rhyw anmheuaeth rhyfedd yn nghylch y modd yr oedd pethau ya myned yn mlaen yn y gell dan-ddaearol. Byddai'r pysgotwyr yn rhyw sisial hefo'u gilydd fod Deio yn delio hefo rhywun na ddylasai, a'i fod yn cael rhoddion o aur ac arian lawer iawn o rywle nas medrynt hwy, er gwneud eu goreu, rybod o ba le. Coelid yn gyffredin, iddo rywbryd ddod ar draws Mor-forwyn yn y fan, ac y bu i'r ddau gyd-fyw hefo'u gilydd, a chael cryn dorllwyth o blant, os gellid galw'r fath gynyrch ar y fath enw. Hyn oedd ddigon amlwg i bawb, y byddai Deio yn aros yn yr ogof am wythnosau heb ddod ar gyfyl neb; ac er i amryw o'r prsgotwyr fyned yno laweroedd o weithiau, i chwilio am dano ni chlywsant erioed na siw na miw oddiwrtho, ac ni welsant ychwaith un arlliw o hono. Yn ymyl yr ogof hono yr oedd Ifan Morgan mewn tipyn o awydd myned i mewn bore hwn er mwyn ceisio gwella gronyn ar yr amseroedd drwg hyny; oblegyd nid oedd dim llongddrylliad wedi cymeryd lle er's dwy flynedd neu