Tudalen:Cymru fu.djvu/445

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ragor ar y glanau hyn, ac felly digon gwael oedd yr olwg am gael tamaid y gauaf dyfodol. Yr oedd Ifan wedi myned at enau'r ogof, ac mewn penbleth ofnadwy. Methu'n lân yr oedd a gwneud ei feddwl i fynu pa un a anturiai i mewn ai peidio. Er fod y llanw yn myned allan, ac yntau yn nofiwr da, pe digwyddiasai'r gwaethaf iddo, eto, yn ei fyw ni theimlai ar ei galon fentro i'r fath le. Eisteddodd, ar ol cychwyn rhyw deirllath iddi, a siaradai hefog ef ei hun fel hyn, "Pe bae Mor-forwyn yn dyfod ataf mi redwn am fy hoedl. Ond beth dalai hyny? Dim ar wyneb y ddaear las. Rhaid gafael ynddi, a'i charu hi'n iawn i edrych a wneiff hi fy mhriodi fi. Pe cawn i afael ar dipyn go lew o'i harian hi, mi fyddwn ar ben fy nigon. Diawst I; hyny fyddai'n rhywbeth iawn." Cosai ei ben, ac edrychai draw i bellafoedd y lle, a phan yn troi ar gip i edrych allan, gwelai ar darawiad amrant ganwyll werdd mewn cilfach uwch ben llyn o ddwfr. Ac ar garreg gerllaw y llyn, ferch ieuanc dybygasai ef, yn trin ei gwallt. Aeth ati'n araf deg, a dechreuodd siarad hefo'r eneth; ond ni wnai hi ond wylo yn hidl, ac ocheneidio'n drwm. Beth bynag ar a fu, aeth Ifan o'r diwedd i'w hymyl, a chan dynu ei law fawr gyhyrog hyd ei gwallt arafodd dipyn ar ei chri gwylofus. Ond pan afaelodd yn ei llaw, ysgrechiai fel ysgafarnog mewn rhwyd; ac er pob ymgais i'w thawelu edrych yn ofnus a gwyllt yr oedd. Ni wyddai Ifan Morgan ar groen y ddaear pa beth i'w wneud: yr oedd yn gweled ei hun wedi d'od yn bur lwcus;—"cael hyd i ferch ifanc gyfoethog felly; ac fel pe dae, nid oedd eisio dim ond priodi, na byddai yn hen glwch rhag blaen." Yr oedd yn gweled yn ei llaw grib aur, a chadwyn o berlau am ei gwddf, ond yr oedd un peth ar ol; yr oedd hi'n noethlymun groen, heb un edefyn yn agos ati. Ond nid oedd Ifan mor llwfr ar ol cael hyd iddi. Gafaelodd yn ei dwy law, a cheisiai chware hefo rhei'ny fel y byddai yn gwneud hefo phlant ei frawd, i edrych a ddofai hyny ddim arni. O dipyn i beth, daeth yn well o'r haner, a cheisiodd Ifan ei chael ar ei lin: ond gwarchod pawb! dyma hi'n gwichian fel haner dwsin o gywion dyllhuan, a chlywai Ifan ryw "fwrlwm-bwrlwm” yn swnio'n drymllyd gryf yn rhywle draw; "Dos i ffwrdd, dos i ffwrdd," ebai, y mae fy mrawd yn dyfod: brysia, brysia; tyr'd yma fory," a chyda'r gair yna, dyma drochion ewynog yn lluwch llwyd o'u cwmpas, a'r ganwyll werdd yn diffodd; ac Ifan Morgan, druan, yn cael ei luchio yn ol ac yn mlaen; ond pan yn y crychias, dyma rywun yn rhoi rhaff am ei ganol