Tudalen:Cymru fu.djvu/446

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Meddeyliodd Ifan am ddweyd ei Bader, ond nid oedd hamdden: er hyny, ar darawiad llygad, cafodd ei hun heb frifo dim, er fod yno geryg cas yn y gwaelod, a llawer darn cyllellog yn taflu allan o ochrau yr ogof; eto i gyd daeth Ifan Morgan allan o hono heb fod ddim criglyn uwaeth, ond ei fod wedi cael dowcfa dda rïol. Yr oedd y rhaff o hyd am ei ganol; a phan gafodd ei hun ar y feisdon, nis gwyddai yn iawn pa beth i'w wneud: ofnai weithiau godi cynwrf wrth dynu y rhaff ato, ac er hyny yr oedd arno ei blys, oblegyd gwnai raff angor ragorol. Fodd bynag, deued a ddelai, mentrodd ei thynu i'r lan, ac er ei fawr syndod gwelai yn d’od yn nglyn â hi drwnc lled fawr. Tynodd hwnw hefyd i fynu, ond yr oedd mor drwm fel mai prin y medrai ei rowlio o'r dwfr. Ond ar ol hir fustachu, a ffaelu, dyma don yn dyfod ac yn ei gipio ef a'r trwnc i'r môr; ond cyn i hono eu tynu yn mhell, dyma don arall gribog, a'r crib hwnw fel eira, yn d'od ac yn ei gludo ef a'r trwnc i ben y gorlan, nes yr oedd mewn lle glas, yn hollol ddianaf. Agorodd Ifan y trwnc yn union, a chafodd ynddo drysorau beth anrhaith; a bu wrthi drwy gydol y nos yn cario adref. Erbyn bore drauoeth, yr oedd Ifan Morgan wedi cael y cwbl at ei law, ac ni wyddai yn iawn pa fodd i ymddwyn; yr oedd yn gweled ei hun wedi bod mor hynod o lwcus, fel y petrusai fyned wed’yn i'r ogof rhag ofn a fyddai gwaeth: tybiai fod ganddo ddigon i fyw yn wr bonheddig, ac felly, i ba ddyben yr ai ef i ymhel hefo'r fath greadur a'r un a welodd yn yr ogof. Ond wed'yn yr oedd peth arall; pwy a wyddai pa faint a gai, os y medrai ef ddod yn llaw hefo'r For-forwyn; oherwydd gwyddai Ifan o'r goreu, mai unu o'r rhai hyny oedd y neb a welodd. Ar ol hir gynsidro, daeth i'r penderfyniad o fyned; "doed a ddel," meddai, "mi af yno am unwaith beth bynag" ac yno'r aeth. Yr oedd hi'n treio'n gyflym erbyn hyn, ac aeth yntau i'r ogof yn fwy hyderus o lawer y tro hwn, na'r tro cynt. Ond erbyn myned i mewu, nid oedd yno na goleu na 'stwr. Aeth yn ei flaen yn bell bell heb weled na chlywed dim. Bu'n edifar ganddo erbyn hyn na buasai yn d'oda darn o raff gyday ef ermwyn cael goleu. Disgwyliodd am gwrs o amser, ond ni ddaeth neb ar ei gyfyl; troes yn ei ol, a chafodd hyd i geg yr ogof yn lled lwydd, ac aeth adref rhwng rhyw ddau feddwl. Tybiai ambell dro wrth fyned ar hyd y morlan mai wedi breuddwydio y cyfan yr oedd, ac nad oedd y trysor a gafodd yn y trwnc ond un o ffrwythau diddefnydd a diafael cwsg. Cyrhaeddodd adref fodd bynag, ac er ei fawr ddywenydd yr oedd