Tudalen:Cymru fu.djvu/448

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn fud agos! Ofnai son wrthi am ei fwthyn annhrefnus; ond rhagflaenodd hi'r cyfan. Dywedodd, dan chwerthin, "Gwn dy fod yn awr yn myfyrio pa fodd y medri ddweyd wrthyf am dy gartref: na feddwl ddim am hyny, yr wyf yn ddigon hysbys o hwnw er's amser maith bellach. Yr wyf wedi cadw golwg arnat er yr adeg pan oeddit yn hogyn gwridgoch yn pysgota yn nghwch gwyn dy dad: a chlywais di yn canu rhyw gerdd y pryd hwnw, yr hon a beres i mi dy hoffi.

Pan soniais am dy gân ac y ceisiais ei hail adrodd yn Llys fy nhad, yr oedd ar bawb eisiau ei chael; bum ar ol hyny lawer gwaith yn clustfeinio am dani, ond ni chlywais air o honi byth wedy'n. Ce's o'r diwedd ganiatad gan fy anwylion i dd'od i chwilio am danat hefo thrysorau, gan feddwl na ddysget mohoni heb y cyfryw, i mi; a phan gyfarfuaist fi, canfuais nad oedd gobaith ychwaith ond trwy i mi gael fy ngwneyd fel y gweli fi yn awr. Fy enw, oeddwn yn fy ngwlad fy hun, yw Nefyn, a merch wyf Nefydd Naf Neifion, a nith i Gwyn ab Nudd a Gwydion ab Don: y mae genyf lawer byd o geraint yn eich byd chwi, a'm byd inau bellach: na feddwl ddim mwy am dy fwthyn: ond cyflawna yr hyn a ddywedaist, ac yna bydd pob peth er daioni.' Synodd Ifan Morgan fwy yn awr nag erioed ar ol clywed y fath hanes rhyfedd, a'r penderfyniad rhyfeddach fyth. Bloesg-ofynodd o'r diwedd, a wnai hi aros gydag ef" er gwell ac er gwaeth." Atebodd hithau y gwnâi, ar yr amod iddo ef bob amser guddio y cap o'r golwg, a dysgu'r gân iddi. Nid oes petrusder i fod na chydsyniodd ar unwaith, a phan fwyaf y goleuai'r dydd, mwyaf oll y gwelai Ifan brydferthwch ei ddarpar wraig.

Nid oedd dim ond priodi ar unwaith, ac aed at y gwaith o ddifrif—ac yn wir nid peth i chwarreu ag ef yw priodi—ni ddylid gadael iddo ddyfod ar warthaf dyn fel cawodydd Gwyl Grog. Hwyliwyd ati, ac aed y bore hwnw at y neb ag oedd ganddo awdurdod; a'r pryd hwnw nid oedd dim ond un mewn neb rhyw blwyf yn honi'r fath awdurdod. Ond pan yr aeth Ifan Morgan a Nefyn at y neb rhyw un hwnw, yr oedd y chwedl wedi myned ar led mai Morforwyn oedd hi, ac ni fynai ef gymaint a son am eu huno mewn glân briodas. Ond gwyddai Ifan pa beth a wnai'r tro. Y mae un agoriad a egyr bob clo, ond un; ac yr oedd yr agoriad rhyfedd hwnw ganddo ef. Sisialodd rywbeth, a thawelwyd cydwybod yr hen frawd mewn awdurdod rhag blaen. Rhyfedd y fath allu a dylanwad sydd gan yr offeryn hwn! Gwyr pawb beth yw.