Tudalen:Cymru fu.djvu/449

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Priodwyd y ddau rhag blaen, a dyna ddiwedd ar yr annghaffael yna. Buont yn cyd-fyw yn dra chysurus yn mwthyn Ifan dros dro, ac yn crwydro gyda glan y môr yn fynych, ac nid oedd neb yn gwybod pa beth a ddeuai i'w rhan bob tro yr aent i mewn i "Ogof Deio."

Yn awr tröer am fynyd at hanes Deio. Un oedd yntau a fedrodd dynu sylw un o'r Môr-forwynion, ac aeth ef i fyw i'w gwlad atynt, a galwyd ef yno yn Dylan; ac yno yr arosodd, heb ddyfod byth yn nes i dir ei dadau na'r maen a elwir ar ei enw, sef yw hwnw Maen Dylan, ac yn Llanfeuno y mae'r maen hyd heddyw i'w weled.

Ond am Ifan Morgan a Nefyn ei wraig, gwell oedd ganddynt hwy anadlu'r awyr, na llyncu'r môr heli, ac felly, gwnaethant anedd gysurus a phrydferth i fyw ynddo heb fod yn mhell o'r lle y safai'r bwthyn. Ni bu dau erioed yn cyd-dynu yn well, ac yn defnyddio cysuron bywyd yn fwy rhinweddol. Bu iddynt amryw blant; dywedir amryw, oblegyd nid cyd-ryw mo'nynt. Bu iddynt bum mab a phum merch, a thyfodd pob un o honynt i'w maint. Dylid dweyd efallai nad aeth Nefyn gymaint ag unwaith i'w hystafell i orwedd i mewn, heb fod yno fab a merch! Pan fel hyn, yn nghanol eu dedwyddwch, nid anghofient un amser beidio a myned i'r Ogof, ac aml hefyd y byddent yn myned allan mewn cwch i ymddifyru hyd y môr. Un diwrnod, pan allan yn mhell o dir, a chwech neu saith o'r plant hefo hwynt, cyfododd tymhesti anniddan. Yr oedd y tonau yn maeddu poer, ac yn glafoerio fel ci cynddeiriog; a chlywyd ryw wichiadau hollol annaearol. Dychrynai'r plant, ac nid rhyw dawel iawn yr edrychai eu mam; ond yn fuan y gwelid hi yn plygu ei phen dros ochr y cwch, ac yn sibrwd rywbeth; ac er eu mawr syndod tawelodd y cwbl yn y fan! Cyrhaeddwyd y lan yn dawel ar ol hyn, ond yr oedd y plant hynaf yn methu'n lan loyw a dirnad yr oedd eu mam yn gallu tawelu'r môr. Rywbryd, fodd bynag, yn mhen hir a hwyr ar ol hyn, yr oedd plant hynaf Ifan Morgan yn myned heibio i dwr o hen ferched y pentref cyfagos, yn lloffa mewn cae, a chlywent dafodau flib-fflab y rhai hyny yn cabarlatsio yn ddibaid. Aeth un o'r plant atynt i'r cae, a rhyw fodd neu gilydd, tynodd un o'r hen ferched yn ei ben, ac ni fuasai yn waeth iddo dynu haid o wenyn meirch neu gacwn geifr yn ei ben na'r rhai hyn. Edliwiasant ddiogi ei dad iddo, a'i fod yn perthyn i Deio fawr," yr hwn a aeth yn was i'r Forwyn-fôr, a chywion Morwyn-fôr y galwasant ef' a'i frodyr a'i chwiorydd. Peth cas enbyd fydd am y tro