Tudalen:Cymru fu.djvu/450

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf glywed rhyw hen rinciadau fel hyn yn cael eu taflyd i wyneb rhywun, ac yntau erioed heb glywed dim son am danynt, na breuddwydio unwaith yn eu cylch o'r blaen! Cafodd llawer un pan na wyddai ef yn flaenorol ddim am y peth, agor ei lygaid yn bur ddisermoni mewn tipyn o ymrafael; felly y bu yma. Cafodd y plant druain edliw eu mam ac eraill o epil eu tad yn hynod o ddifloesgni gan y giwaid tafotrwg oedd yn y cae yn lloffa. Parodd hyn i'r bachgen hynaf gymeryd ei feddwl ato, a throi a throsi yn ei fyfyrdod amryw bethau a welodd ef yn digwydd. Cofiai am yr adeg y siaradodd ei fam hefo rywun dros ochr y cwch, ac y tawelodd y tonau creisionog mewn chwiff: hefyd yr oedd rhyw ddirgelwch mawr iddo tuag "Ogof Deio." Yr oedd yn gwybod na byddai ef byth yn cael myned hefo'i dad a'i fam i'r lle hwnw. Yr oedd, yn wir, wedi bod yn yr Ogof ei hun, ond ni welodd ac ni chlywodd ddim byd yno mwy nag mewn rhyw ogof arall : er hyn i gyd, yr oedd yr edliwiad mai Môr-forwyn oeddei fam yn peri cryn drallod meddwl iddo. ClÌywsai ei fam hefyd, ambell dro, yn son am bethau na welodd erioed ddim byd yn debyg iddynt, yn enwedig am "lys Nefydd Naf Neifion," ac am "ddyffrynoedd Gwenhidiw," a "thiriogaethau Gwyn ab Nudd," ac yr oedd y tywysog olaf hwn wedi talu ymweliad a hwynt amryw droion; nid oedd dadl i fod nad teulu cyfoethog iawn oedd pobl ei fam; ond os Môr-forwyn oedd, dyna bob peth ar ben. Yr oedd y plant yn arw am eu mam, a hithau yn dyner, tawel, a thirion, bob amser. Un diwrnod daeth i balas Ifan Morgan ymwelydd,—ymwelydd na chai'r plant ddim cymaint a'i weled, yr hyn beth ni bu hefo neb o'r blaen. A rhyw ddechreunos, pan oedd y Deuad ieuanc newydd suddo dros orwel y Gorllewin, aeth Ifan a Nefyn allan yn ddistaw bach; ac er mor ddidwrf yr aethant, fe anmheuodd rhai o'r plant fod rhywbeth ar droed. Ond yr oeddynt hwy, sef Ifan a'i wraig, wedi dweyd wrth y pen gwas na ddeuent yn ol am dair wythnos neu fis, a chlywodd y bachgen hynaf hyn, a chyfododd ei chwilfrydedd yn fwy nag erioed: aeth ar eu hol hyd at lan y môr, a phan yno, gwelai dòn grychias fel bryn go lew, yn d'od oddi draw yn mhell yn y môr, a gwelai ei fam yn taflu mantell o groen dros ei dad a hithau, ac ill dau yn. ymollwng i fonwes glochog y don fawr; ac ni welodd ddim wed'yn ond y môr fel arferol. Cafodd brawf yn awr mai Môr- forwyn oedd ei fam, ac aeth adref, ac ymhen y naw diwrnod. druan, yr oedd wedi marw. Torodd ei galon yn