Tudalen:Cymru fu.djvu/451

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deilchion mân pan wybu pwy oedd ei deulu! Pan welodd ei chwaer ei brawd wedi marw, aeth hithau i lan y môr a thaflodd ei hun iddo. Ond yn lle boddi, dyma ryw farchog glandeg ar gefn march ysplenydd yn ei chyfodi hi ar ei farch ato, ac yna yn marchogaeth nerth gafaelion y traed hyd wyneb y môr gan garlamu dros y tonau mawr fel ag y gwna ceffylau ein gwlad ni wrth hela. Ni wyddai'r gweision a'r morwynion yn y byd pa beth i wneud, oblegyd yr oedd Nefydd Morgan, sef y mab hynaf, yn gorph marw yno; ac yr oedd Eilonwy Morgan wredi taflu ei hun i'r môr. Yr oeddynt mewn penbleth ofnadwy: "Ond," ebai'r ail fab, sef Tegid Morgan, a bachgen gwrol a dihitio yn nghoegni neb oedd efe, os na ddaw cenad yma heno, rhaid claddu Nefydd, a thyma'r hyn wnawn; nyni a'i cymerwn i'r feisdon, ac ond odid na ddaw rywun i'w nol er mwyn iddo gael ei gladdu yn mysg teulu mam." Ond tua haner nos dyma genad, sef Marchog, yn eu hysbysu "byddai'r angladd y bore hwnw am dri; ond y deuai eu brawd atynt yn ol, am iddynt beidio ag wylo; a bod eu chwaer Eilonwy i gael ei phriodi yn fuan hefo un o farchogion glanaf a gwronaf Gwerddonau Llion: fod eu tad a'u mam hefo Gwyn ab Nudd yn y Gwaelodion, a bod Gwydion ab Dòn i gyfarfod yr angladd, ac i droi'r cwbl yn llawenydd trwy roi calon newydd i Nefydd Morgan, yr hon ni thorai o dan bwysau yr holl fyd crwn cyfa! Yr oedd yr holl bethau hyn yn rhyfedd! Ond tri o'r gloch y bore hyny aed a'r arch i lan y mor, a rhoed ef yn y fan lle bydd y tonau yn ymhyfrydu bod,—yn haner y gorlan: nid cynt nag y cyffyrddodd ton â'r arch nad oedd y cauad yn agor o hono ei hun, a Nefydd yn neidio allan o hono fel llamhidydd o'r dwfr. Ac mna gwelwyd Gwydion ab Dòn yn rhodio fraich-yn-mraich ag ef at long oedd yn aros draw. Iddi yr aethant, ac ni chlywodd y rhai oedd ar y lan y fath ganu peraidd erioed. Hwyliodd y llong ymaith, ac yr oedd yn myned dros y tonau heb gyffwrdd ond a'u brig yn unig.

Rhyfeddai pawb, ac ofnent yngan gair, y naill wrth y llall hyd yn oed, rhag ofn fod yno rywun o deulu eu meistres yn gwrando! Yn mhen un dydd a blwyddyn gron daeth Ifan Morgan yn ei ol, a phrin yr adwaenai ei blant ei hun ef; yr oedd wedi cyfnewid yn fawr nid er gwaeth, fel y mae hi fynychaf; ond yn ddilys er gwell. Ni soniai air am Nefyn, hyd yn oed wrth ei blant; o'r diwedd gofynodd Tegid iddo, pa le mae'n mam?" "Y mae hi yn Nwfn-gwm Eigion Annwn yn chwilio am