Tudalen:Cymru fu.djvu/452

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynt Eilonwy eich chwaer, yr hon a ddiangodd oddiwrth ei gŵr o Werddonau Llion, ac aeth yn ossymaith hefo Glanfryd ab Gloywfraint. Daw yn ol cyn hir, a chewch yna hanes y rhyfeddodau a welsom ac a glywsom." Aeth Ifan Morgan i'r wely, ond erbyn bore dranoeth yr oedd wedi marw yn ei wely, a choelid yn gyffredinol nad oedd wedi cael chware teg, oblegyd yr oedd y teulu er's tro wedi gweled Marchog Du yn d'od i mewn gefn trymydd y nos, ac yn rhoi tro yn y Neuadd, ac yna'n diflanu i'r ffynon oedd bwrlwmu mewn cul-gell gerllaw. Aethpwyd ar ei ol lawer gwaith, ond ni cheid dim o'i ol; oblegyd diflanai. Yr oeddis wedi ei weled o ddeutu yn lled ddiweddar, a thybid mai ef a wnaeth ben ar Ifan Morgan. Mawr oedd y twrf yn nghylch y digwyddiad, a chlywid aml un o'i hen gydnabod yn dweyd o dan eu danedd, "O hir ddilyn drwg y mawrddrwg a ddaw," a "Drwg yw'r drwg, a gwaeth yw'r gwaethaf," yn nghyda "Llawer bore clir, noswylia yn gymylog."

Ond claddwyd Ifan Morgan yn barchus, a bore ei gynhebrwng yr oedd Nefyn wedi dychwelyd! Wyla i'n hidl am dano, ac ni welwyd mo honi'n llwybro daear ar ol y diwrnod hwnw! Tegid oedd yr etifedd penaf yn awr, a gwnaeth ef dro brawd â'i frodyr a'i chwiorydd, Dygodd hwynt i fynu yn foneddigaidd, a cheisiodd gadw oddi-wrthynt bob chwedl ddrwg yn nghylch eu mam, &c., ac fe anfonodd ei chwiorydd i wlad bell i gael eu haddysgu yn y dull goreu; a dygodd ei frodyr i fynu yn y dull costusaf. Yr oedd Tegid hefyd wedi penderfynu, os oedd modd, fwrw dros gof yr hyn a boenai ei frawd gymaint: ei air cyswyn oedd, "dyn yw dyn; ac nid llai dyn chwaith." a chan ei fod ef yn ddyn, ac yn profi hyny yn feunyddiol mewn mwy nag un dull, ni faliai pa beth a sisialid yn nghylch eu deulu. Yr oedd yn gyfoethog iawn, oblegyd po fwyaf a wariai, mwyaf yn y byd a ddeuai i mewn: ac nid oedd un achos da, nad oedd ef yn gymwynaswr iddo. Yr oedd un peth, er hyny, yn ei flino yn fawr, sef pa fodd y daeth ei dad i ben ei daith mor ddisyfyd. Un diwrnod, pan oedd ef a dau frawd iddo yn pysgota yn yr arfor, daethant, wrth fyned o flaen y gwynt, i'r lle rhyfeddaf a welsent erioed; yr oedd y môr mor lyfn a gwydr, ac mor ddisglaeriaf a'r goleuni cliriaf! Gwelent, heb fod yn mhell iawn oddiwrthynt, faesydd ffrwythlonaf a dolydd mwyaf porfelog: y gwrychoedd a'r cloddiau yn flodeuog arbenig, a'r llwyni gwyrddleision a'r coedwigoedd ireidd-dwf yn cyforio'n ddeiliog! Yr afonydd yn ddiog orwedd gan