Tudalen:Cymru fu.djvu/455

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SUL COFFA IFAN DELYNIWR

YN ein herthygl ar "Gladdu yn yr Hen Amser," Cyf. 1af, tudal. 91, anghofiasom grybwyll am yr hen ddefod o Goffa y marw y Sul cyntaf ar ol yr angladd. Rhyw hen arfer ysmala ddiniwaid oedd y Coffa yma—un o ddigrif bethau crefydd yr hen bobl. Elai perthynasau y marw i'r Llan y Sul ar ol claddu, ac wedi darfod o'r Gwasanaeth elent at y bedd, penlinient yno, ac wedi treulio tua phum' mynyd yn yr agwedd hon, ymadawent, a dyna'r Coffa. Ond y mae rhywbeth swynol iawn mewn hen ddefod, hyd yn nod hen ddefod ryfedd fel hon. Edrycher ar y wyryf ieuanc hawddgar acw, lân o bryd a glân o fuchedd, gyda'i gwefusau cwrel, a'i dwy foch fel pe buasai dau rosyn coch tlws wedi eu cusanu a gadael eu hargraff arnynt, ei gwallt du llywethog, a'i ffurf luniaidd gymesurol—pob tlysni yn cyd-gyfarfod i'w gwneud yn un o gywrain brydferthion natur. Edrycher arni yn dynesu at fedd newydd ei hanwylyd y Sul cyntaf wedi i'r fynwent oer dderbyn ynddo ef glaer obeithion ei serch, ac y mae yn anhawdd canfod golygfa lawnach o deimlad a dyddordeb; canys y mae galar bob amser yn prydferthu prydferthwch fel yr ardderchogir gwyrddlesni Mehefin gan gawod o wlaw. Hi a benlinia tan yr ywen ddu—uwchben gweddillion yr un a garai, a gwlych ei thirion ruddiau â dagrau, lleinw adgofion am dano holl ystafellau ei meddwl, a dichon y twng hi yno i'w gwyryfod na rydd ei serch mwyach ar neb ond ar yr Hwn ac ar yr hyn sydd uchod. Gwnaed llawer adduned di-dor â phurdeb cyn hyn oddiar y bedd Sul y Coffa. Felly, Mr. Surdrwyn Pharisee, ti a weli mai "Gwell hen arfer na drwg fuchedd."

Ond a Sul Coffa Ifan Delyniwr y mae a fynom ni. Un o'r dynion caredicaf a droediodd esgyd erioed oedd Ifan, nis gallai edrych yn ddidostur ar angenoctyd, ac yr oedd y fath ffordd fèr rhwng ei law a'i galon fel yr oedd ei logell bob amser yn wag; a'i fysedd bob amser yn brysur yn lleddfu tylodi a thrueni ei gymydogion. Yr oedd efe yn caru phawb, a pha ryfedd fod pawb yn ei garu yntau. Nid ydym yn meddwl fod yn yr holl fyd crwn elyn iddo. Cynaliai ei rieni yn eu hen ddyddiau o fethiantwch a llesgedd. Pan fyddai y weddw dlawd mewn gwasgfa am arian i dalu ei rhent, yr oedd telyn a thalent Ifan at ei gwasanaeth—dim ond gofyn; a chwyn yr amddifad ni ddiystyrid gan y Telynor calon-lawn. Un felly oedd o;