Tudalen:Cymru fu.djvu/456

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

felly y gwnaeth natur o; a buasai yn gymaint cosp arno ei fod yn gybyddlyd ag a fuasai i'r cybydd fod yn hael. Gwnelai hyn ef yn anwylun yr ardal yr oedd yn byw ynddi; a thywelltis llawer bendith galonog ar ei ben. "Dy ewyllys i ti, Ifan bach," a "chwareuer telyn ar dy fedd," oeddynt fendithion cyffredin yr oes hono tua Dyffryn Clwyd. Os caf eich bendith gyntaf, 'wyf yn siwr o'r olaf," fyddai ei ateb yntau. A gafodd efe hyny?- ni a gawn weled.

Y pryd hwn, edrychai ein harwr yn ddyn hoenus cryf, yn dynesu at ddeg ar hugain oed; ac fel pe buasai blynyddoedd lawer o hen ddyddiau ar ei gyfer; ond wele angau yn dechreu araf ddatod y llinynau a gysylltant enaid a chorph, a phob dydd yn d'od a rhyw wendid newydd i'r golwg. Dechreuad ei afiechyd oedd y gwlybaniaeth a gafodd wrth groesi mynydd Hiraethog ar ei ffordd o balas Nannau, lle y buasai am bythefnos yn difyru y boneddigion â

Iaith y delyn, nyth diliau,
A'i mel o hyd yn amlhau.

Pan ar ganol y mynydd diarffordd, daeth yn niwl arno, ac yn y niwl wlaw, ac yn y gwlaw genllysg; collodd yntau ei lwybr; crwydrodd yn y niwl; a churwyd ef mor ddidrugaredd gan y cenllysg nes yr ymollyngodd yn lluddedig o tan lwyn o eithin; ac yno y bu hyd oni thorodd arno wawr dirion y bore. Dyma sylfaen ei afiechyd, a'r afiechyd hwn a derfynodd ei einioes.

P'eth digon sobr ydyw angau pob dyn; ond pan fyddo bardd farw, mae'r achlysur yn cenhedlu yn gyffredin ddwsin o feirdd i farwnadu ei glodydd; ond pan y byddo telynor marw, odid fawr y daw neb i lanw ei le, canys y mae ein telynorion Cymreig fel eosau ein coedwigoedd yn prysur ddiflanu o'r wlad. Suddo yn raddol i dynged dynolrywyr oedd Ifan; ac fel y gellid tybied cydymdeimlai ei gydnabod yn ddwys ag ef, ac amcan pawb oedd lliniaru ei gystudd, a llacio gafael angau arno. Yr oedd ei ystafell wely yn un ystorfa o gynyrchion caredigrwydd serch. Gwelid yno winoedd y boneddwr; ac yno yr oedd "hatling y wraig weddw dlawd," ar ffurf sypiau o Lun Llygaid, Morwyn y Weirglodd, a llysiau eraill a ystyrid o dirfawr leshad rhag y darfodedigaeth; a meddyliai y claf lawn cymaint o sypyn llysiau y tlawd ag o gostrel win y boneddwr, a diolchai am danynt yr un mor galonog. Ond "er gwaedd mil er gweddi mam," suddo yr oedd o, o ddydd i ddydd. Cefnodd gobaith am fyw oddiwrtho toc,