Tudalen:Cymru fu.djvu/457

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chyda gobaith am fywyd cefnodd hefyd ofn marw; dymunodd gael gweled ei brif gyfeillion wrth erchwyn ei wely; ac mewn teimladau ffeind iawn ffarweliodd â hwynt oll, trwy ddeisyf ganddynt ei ddeisyfiad olaf. Codwyd ef ar ei led orwedd yn ei wely, a chan gasglu ei ychydig nerth yn nghyd, bloesg lefarodd wrthynt fel hyn:—Yr wyf yn myn'd. Carwn gael fy Nghoffa. Ond nid yn yr hen ddull. Yn lle'r hen ddefod, gofynwch i Williams y Merllyn a Richard y Telyniwr, dau o'm disgyblion telynol, dd'od i Eglwys Llanfwrog, a doder fy nwy delyn I iddynt; ac wedi gorphen y Gwasanaeth, cerddant at y bedd; ac eistedded Williams wrth y pen a Richard wrth y traed, a chwareued y ddau saith o hen Alawon Cymreig, gan ddechreu gyda 'Dafydd y Gareg Wen,' a diweddu gyda Thoriad y Dydd.' Y mae y gyntaf yn lleddf fel angau, a'r llall yn sobr fel dydd brawd." Yna diffygiodd ei nerth, ac yn ddiochenaid, cymerodd ei yspryd ei aden, ni a obeithiwn, i well byd: a phenderfynwyd cario allan ddymuniad y Telynor i'r llythyren.

Aeth y gair allan fod rhywbeth rhyfedd i gymeryd lle yn Llanfwrog y Sul hwnw; a phan ddaeth yr amser, yr oedd yno luaws mawr o bobl wedi ymgynull. Dywedai y Clochydd wrthyf na welodd efe erioed gynifer o bobl ag a welodd yn Llanfwrog y bore sanctaidd hwnw-lawer o honynt wedi dyfod ddeg neu ddeuddeg milltir o ffordd er mwyn clywed y newydd-beth o ddwy delyn yn chwareu deuawdiau wrth Goffa; ac na welodd erioed ond y tro hwnw gynulleidfa a phob llygad ynddi a'i lon'd o ddagrau. Bore o Fai oedd hi, a'r adar ar y prenau o gwmpas yn caroli'n braf folawd eu Creawdwr; ond pan darawodd y ddau Delynor eu deuawd yr oedd yr acenion galarus yn peri i gor y goedwig ddal eu hanadl, ac yn dryllio teimladau y bobl yn chwilfriw mân. Ac y mae yn anhawdd dychymygu Coffa mwy gweddus i Delynor na chyda lleisiau yr offerynau cerdd yr ymddifyrau eienaid gymaint yn eu seiniau. Saethir gynau tros fedd y milwr dewr, paham ynte na chwareuer telynau wrth Goffa y Telynor mwyn. Boneddwr uchelwaed oedd "Williams y Merllyn," yn sugno prif ddiddanwch ei fywyd wrth "ddysgu gwaith angylion," ac wrth dynu'r mêl o'r tanau màn," a gresyn na byddai rhagor o'n boneddigion Cymreig yn meddu yr un cyffelyb chwaeth. Dyna a glywsom am Sul Coffa Ifan Delyniwr; a dyna fel y cyflawnwyd bendithion y tlawd a'r weddw; ag y cafodd yntau ddymuniad penaf ac olaf ei fywyd, sef chwareu telynau ar ei fedd.