Tudalen:Cymru fu.djvu/458

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CHWILIO AM ARIAN DAEAR.
GAN GLASYNYS.

Y MAE chwilio am arian daear wedi bod yn un o brif. ymchwiliadau rhyw ddosparth o bobl yn yr oesoedd diweddaf. Fyth ar ol i'n gwlad gael mwydo ei dolydd, a gwlychu ei bryniau, â gwaed rhyfelwyr, ac ar ol i ddifrod fod yn ysgubo pob peth o'i flaen am oesoedd; pan y caed heddwch, coeliai'r wlad fod peth wmbreth o drysorau wedi cael eu cuddio yn y ddaear yn yr adegau terfysglyd hyny. Ac yn wir, yr oedd coel arall, hynach a chyffredinach, sef fod rhyw fodau goruwch-naturiol yn meddu cuddfeydd llawnion o drysorau, draw ac yma, yn mysg llawer iawn o genhedloedd heblaw ein cenedl ni, ac y gwnai y rhai hyn, pan ddelai yr un iawn yno i chwilio am danynt, ddatguddio eu cronfa'n rhwydd a rhad, ac felly wneud y cyfryw greaduriaid ffodog yn gyfoethog rhag blaen. Nis gwn am un plwyf nad oes arian daear ynddo yn rhyw le; o'r hyn lle na ddywed rhywun fod yno rai.

Rhyw ddeugain mlynedd yn ol, mwy neu lai, yr oedd crefftwr yn bywyn Môn, ac nid oedd dim ar wyneb y ddaear gron, na than ei gwyneb ychwaith, am wn I, a chwenychai yn fwy na chael arian daear. Pan elai ei gyfeillion i edrych am dano ddechreunos, byddai'n bur debyg o dynu ar draws yr hen bwnc, a hwythau yn ei borthi hefyd yn ddigon hwylus, y mae yn fwy na thebyg, Un noson, yr oedd un o'i gyfeillion penaf yn dweyd ei fod wedi cael gweledigaeth ryfedd yn ystod amser cysgu, a pha beth oedd hono, ond fod arian daear yn un o feusydd mawrion y Plas oedd gerllaw. Dywedodd yr hanes yn fanwl wrth y crefftwr, a synai hwnwyn arw at y fath ddatguddiad rhyfedd. Wy'st ti beth, Robin," ebai, "y mae'n rhaid fod yno rywbeth. Paid ti a son wrth neb, Robin. Mi ddof fi yno hefo thi'r pryd y myni, wy'st ti. Pwy wyr pa faint sydd yno? Paid ti a deud wrth neb, Robin." Addawodd Robin gadw'r peth yn ddirgel. Yn mhen rhyw wythnos wed'yn yr oedd Robin wedi breuddwydio drachefn yr un fath bron yn union. Nid oedd ond rhyw ychydig bach o gymhelliadau ychwanegol yn hynodi tro hwn oddiwrth y tro'r blaen. Aeth at ei hen gyfaill, y crefftwr, a dywedodd wrtho'r hyn a fu, a bod gwahoddiad