Tudalen:Cymru fu.djvu/459

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo dd'od i'r parc nos dranoeth rhyw dro dro gefn trymeddion y nos, sef ar ol un-ar-ddeg; a bod arno eisiau cael rywun i dd'od gydag ef. Yr oedd y crefftwr ar dân gwyllt am fyned, ac nid oedd na byw na bywyd i Robin heb addaw iddo gael d'od a bod yn rhanog! Gadawodd yntau iddo gael ar ol tipyn o grefu. Yr oedd ar Robin ofn nad oedd y crefftwr ddim yn ddigon calonog; dyna oedd ei esgus, oblegyd meddai, "Un gwan iawn ydwyf fi: pe gwelwn rywbeth, y mae arnaf ofn na fedrwn ddim dweyd un gair o'm pen. Peth gwael fyddai hyny wedi myned mor agos at y peth !" Sicrheid ef gan ei gyfaill, nad oedd ef yn malio dim mwy yn y nos nag yn y dydd, ac y siaradai ef y cwbl rhag blaen hefo beth bynag fyddai yno. Nos dranoeth a ddaeth, ac yr oedd y ddau wedi rhag-ddarparu pob peth yn eithaf deheuig. Yr oeddynt ill dau yn aros am yr awr benodol yn nhy y crefftwr; ond yr oedd ei wraig ef, druan, bron a thori ei chalon. Tybiai y gwnai'r yspryd aflan gipio ei gŵr yn ging-gong-gafr a'i slanu ef i ffwrdd i ryw le nas gwelai na migwrn nac asgwrn. o hono byth mwy.

Crefai yn galed arno ef beidio myned beth bynag; ond nid oedd yn waeth ceisio cadw llanw'r môr yn llonydd na threio cadw'r gŵr yn y tŷ: na, yr oedd yn rhaid i Robin ac yntau fyned: a myned a wnaethant hefyd. Yr oedd hi'n noson ddwl, dywyll, heb ddim chwà o wynt bron. Yn debyg ddigon o ran hyny, i lawer noson a fu cynt ac wed'yn yn ystod Hydref a Thachwedd: teyrnasai llonyddwch marwol ar bob llaw. Ymaith yr aed, ac at y fan yr oedd Robin wedi breuddwydio gweled ei hun yn cael yr arian. Yr oedd y lle heb fod yn mhell oddiwrth ffynon ag oedd yn y cae; a cheisiasant wneud eu ffordd am hono. Pan oeddynt yn agoshau at y fan, dyna'r Crefft wr yn gofyn i Robin, "A weli di rywbeth, Robin?" Na welaf ddim," meddai yntau, "a weli di rywbeth?" Gwelaf, wel di." Yn mlaen yr aed, y Crefftwr yn gyntaf a Robin yn olaf. Wel ddim 'rwan, Robin," ebai drachefn. Gwelaf," meddai yntan, "rhyw oleu glas bach fel canwyll." Safodd y ddau yn ddistawyn y fan hono am dipyn; ac ebai'r Crefftwr, "Oes arnat ti ofn, dywed?" "Fawr lai," ebai Robin: " A glywi di rywbeth" Ond ar ol sefyll enyd dyma ail-gychwyn at y tân y Crefftwr yn mlaenaf o hyd, a dilynid ef yn araf deg gan Robin. Pan oeddynt wedi d'od o fewn rhyw ddeugain llath at y tân, diffoddodd yn llwyr am fynyd, ac nis gwyddent ar groen y ddaear pa beth i'w wneud.