Tudalen:Cymru fu.djvu/462

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Robin." Aeth y ddau yn nes at y gornel, a thyma rywbeth yn codi, ac yn d'od ar wib atynt, a thaflodd y ddau nes oeddynt yn pellenu ar lawr; a pha beth oedd ond llwdn dafad, a orweddai yn y cysgod; a thyna hynt yr hen fechgyn hyn wrth chwilio am arian daear y Parc bach.

CADWALADR LEWIS Y CRASWR.

OND nid fel yna yr oedd hi hefo Cadwaladr Lewis yn Meirion. Yr oedd sôn fod arian daear mewn hen furddyn heb fod yn mhell o'r odyn lle'r oedd Cadwaladr yn arfer crasu, a mynych y byddai blys arno fyned i'r lle i dirio. Ond yr oedd arno arswyd myned i'r fan ei hun, rhag ofn i rywbeth dd'od ato; ond er hyny, yr oedd y blys yn myned yn gryfach bob dydd, a pho amlaf y soniai am y llonaid crochan o aur oedd yno wedi cael ei guddio, cryfaf yn y byd y teimlai ryw ysfa myned i dreio. Gwnaeth gaib gref, a rhoes droed newydd yn y fatog oedd ganddo yn yr odyn, ar fedr llwyr myned yno ryw noson y gauaf hwnw. O'r diwedd gwnaeth ei feddwl i fynu, ac yno'r aeth ryw noson tua haner nos. Dechreuodd geibio, ac wrthi y bu am yn hir heb weled na chlywed dim. Yr oedd yn gweithio ei oreu glas, a'r chwys yn rhedeg yn ffrydiau dros ei wyneb.

O'r diwedd clywai ryw sŵn gwag odditanodd, a tharawodd ei gaib yn erbyn careg. Wrth dreio'r gaib draw ac yma, yr oedd y gareg yn atsian yn mhob lle. Tybiodd wrth y sŵn gwag fod yno wagle o danodd, a chwiliodd am ei hymyl; cafodd hyd i hwnw, a rhoes flaen ei gaib o dan yr ymyl a rhoes flaen ei droed ar y pen arall, a phwysodd ei oreu, ond nid oedd yn yswigiad. Daeth i'w ben i roi brisgyn dan ei gaib, ac felly dreio ei hysgwyd, ond nid oedd ddim yn chwimio. Rhoes ail gynyg, dyma hi'n gwyntio, a chyda hyny dyma wynt ofnadwy yn d'od allan, a'r ysgrechfeydd cethinaf i'w clywed i lawr yn rhywle yn nyfnder daear. Ar hyn hefyd, daeth rhyw ysgerbwd annaearol, i fynu o'r ddaear, heb ddim cnawd yn agos ato; dim ond yr esgyrn moelion. Y penlglog heb ond ceudyllau lle bu'r genau, y llygaid, a'r clustiau! Asenau yn rhes bob ochr, ac esgyrn y breichiau a'r dwylaw heb ddim am danynt! Safodd y drychiolaeth yn syth ar y gareg, ac agorodd ei safn amryw weithiau; a chlywodd Cadwaladr Lewis ryw lais dwfn yn dywedyd "Ni ddaeth yr amser eto." Ar ol d'od dipyn ato ei hun meddyliodd am ddianc i ffwrdd, ond ni fedrai symud pe cawsai'r byd am ei boen. Yr oedd rhywbeth wedi rhwymo ei draed fel na