Tudalen:Cymru fu.djvu/463

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allasai ysgogi. Yno y bu nes y canodd ceiliog y Felin; ond pan seiniodd mab yr iar y gloch ddydd, diflanodd yr ysgerbwd, a chafodd yntau ei draed yn rhydd, a gellir coelio iddo fyned adref yn nghynt na chynta' gallai, a thyna fu diwedd cynyg Cadwaladr Lewis wrth chwilio am arian daear.

Y PLAS A GYTHRYBLID GAN RYWBETH.

RYWBRYD yn ystod mis Awst, tua naw mlynedd yn ol, yr oeddwn ar "daith yn nhir y de," ac ar fy hynt daethum i le o'r enw Pont Newydd, ar y ffordd rhwng Lanfair-yn- Muallt a Rhaiadr Gwy. Pan oeddwn yn dyfod ar hyd y ffordd fawr, yr oedd rhyw deimladau trwmbluog yn llen wi fy mynwes. Yr ydoedd yn nosi'n drwm, a phob peth o'm deutu'n swnio, ac yn edrych yn bruddglwyfus. O'r diwedd, cyrhaeddais y lle a enwyd, ac aethum i'r Gwesty er mwyn cael tamaid o fwyd a llymaid o ddiod; ac os oedd modd, lety noson. Erbyn myned i mewn, yr oedd yno chwech neu saith o ddynion pur barchus yr olwg arnynt yn "difyru uwch ben diferyn" o rywbeth, pe buasai'n waeth o ran hyny pa beth.

Yr oedd yno gegin lanwaith helaeth, a phob peth ynddi yn edrych yn lân a threfnus. Eisteddais i orphwyso yn eu cwmni, a ches lasiad o Sider o dan gamp gan wraig y tŷ yr hon a edrychai yn llawen, fwyn, a charedig. Pan aethum I yno, fel y deallais wed'yn, yr oedd un o'r rhai oedd yn eistedd yn adrodd chwedl oedd wedi ei chlywed yr wythnos cynt, am ddigwyddiad hynod oedd wedi cymeryd lle mewn cwr o sir Faesyfed, heb fod yn rhyw bell iawn o Fynachlog y Cwmhir. A thyma'r hyn a loffais I o honi. Yr oedd yno ŵr a gwraig newydd briodi, ac mewn awydd mawr am gael lle i fyw. Gan fod gan y wraig gynnysgaeth dda, a chan y gŵr lawer o dyddynod yn ei eiddo ei hun, heblaw swm mawr o arian a gafodd ar ol hen ewyrth iddo, yn ol llythyr cymun ei dad;-felly yr oeddynt yn gyfoethog, ac yn naturiol yn chwilio am le amgen na chyffredin. Bu'r ddau, a'u teuluoedd, yn edrych allan am le cymwys am yn hir, ac yn ffaelu cael eu plesio am dro : ond o'r diwedd cawsant ar ddeall fod Syr Hwn-a-Hwn, (gwell peidio rhoddi'r enw'n llawn, gwnaiff y ffug-enw hwn y tro), am osod hen balas ag oedd wedi bod yn wag er's amryw flynyddoedd;—yn wag er's rhai ugeiniau, oddigerth fod yno un hen wreigan yn cysgu ynddo, ac yn cadw tân o'r naill ystafell i'r llall. Ni chysgai yr un o'r gweision yn y tŷ pe blingid hwy: os yr