Tudalen:Cymru fu.djvu/464

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arosent yno am ddwy noson pan ddeuent yno gyntaf, byddent yn sicr o fynu cael myned allan i'r ystablau neu rywle, neu ymadawent oddiyno rhag blaen. Er nad oedd y perchenog yn ei ollwng ef o'i law un amser; oblegyd yr oedd hyny yn ewyllys yr hen lanc a'i rhoddes ef i'r teulu, sef nad oedd y lle fyth i gael ei osod i eraill, ond i gael ei gadw yn rhan o leoedd byw Syr Hwn-a-Hwn o oes i oes yn ddiball. Yr oedd o leiaf dair oes wedi myned drosodd er pan oedd wedi d'od yn eiddo'r teulu anrhydeddus, ac yr oedd pob un o'r teulu, rywbryd yn eu hoes, wedi gwneud cais am fyw ynddo, ond ni bu'r un o honynt erioed ynddo fwy na dwy noson olynol, ac nid oedd neb yn medru dyfalu paham ar y cyntaf; ond daeth y peth yn chwedl pen gwlad o dipyn i beth, ac nid oedd dim cyfrinach yn mysg bobl ag oedd yn byw o gwmpas, paham nad oedd yno neb yn aros yno ddim ond am gyn lleied ag y medrent. Bu'r lle yn wag am hir feithion flynyddoedd, er hyny, cedwid ef yn drefnus; oblegyd yr oedd yn rhaid gwneud hyny yn ol y rhoddiad. Aeth sï ar led fod y palas ar osod, ac nid oedd na byw na bywyd, i'r gŵr ieuanc oedd newydd briodi, gan ei wraig, nad elai heb atreg i chwilio am dano. Myned a wnaeth ryw ddiwrnod hefog ewyrth iddo at y neb a edrychai ar ol y lle, er mwyn cael gwybod a oedd rhyw sail i'r son a wneid, a cha'dd wybod gan hwnw, na osodid mo'r lle, ond ei fod yn meddwl "y cai fyned yno i fyw, heb na threth na degwm, am yr hyd y mynai; yr oedd yr un ag oedd wedi bod yno y rhan oreu o gan' mlynedd newydd farw, ac nid oedd neb yn tywyllu mo'r fan ond gefn dydd goleu er pan fu hi farw." Dywedodd y deuai, os ewyllysient, y diwrnod hwnw at yr hwn a'i pioedd, ac y caent felly sicrwydd yn nghylch y peth. Myned a wnaethant, a chawsant Syr Hwn-a-Hwn yn ei lyfr-gell: caed derbyniad croesawus, a phan glywodd eu neges, dywedodd ar unwaith na osodai mo'r palas, ond bod cyflawn groesaw i'r gŵr ieuanc fyned yno i fyw am yr hyd a ddymunai, ac y cai le i gadw ychydig o wartheg a cheffylau am ardreth resymol, yn y dolydd gerllaw iddo. Gwnaed y cytundeb yn ddinac, ac wed'yn cychwynwyd tua thref yn llawen o herwydd pa mor ffodus a fuant y diwrnod hwnw. Wedi cyrhaedd adref nid oedd yno ddim ond llawenydd, ac nid neb a lawenychai yn fwy na'r wraig ieuanc, pan wybu fod y palas i'w gael. Yr oedd hi ar unwaith yn ei meddwl yn dechreu trefnu pethau ynddo. Yr ystafelloedd a'r dodrefn. Y morwynion a phob peth; a chan eu bod yn cael y lle am ddim yr oedd am dori tipyn