Tudalen:Cymru fu.djvu/465

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o gyt er mwyn dangos i'r wlad yn enw dyn, eu bod hwythau yn rhywun. Garwydyw'r byd am fod yn rhywun!

Paratowyd i fyned yno'n union deg, a lle hynod o dlws ydoedd. Safai'r tŷ ar gwm gwastad lled eang, drwy ganol hwn yr ymddolenai afon loyw. Ar gyfencyd yr oedd bryniau coediog yn graddol a diog ymgodi: tra o'r ochr arall ymsythai mynydd serth wedi cael ei wisgo'n dewglyd hefo grug a mwsogl. Yr oedd y gwastadedd wedi cael ei ranu'n ddolydd mawrion, a'r cloddiau'n llawn o goed iraidd gan mwyaf o goed afalau perion. Yn gylch o gwmpas y palas yr oedd derw canghenog, ynn talfrigog, masarn deiliog, a ffinwydd talog: mewn gair, yr oedd yn un o'r lleoedd prydferthaf a ellid weled yn y rhan hono o'r wlad. Yr oedd yno hefyd bysgodlyn o flaen y drws, ac elyrch cyn wyned ag eira yn araf nofio, hefo'u gyddfau bwâog o'u hesgyll ymchwyddog, ar hyd ei wyneb mandonog. Ofer crybwyll am y gwelyau o flodau symudliw, a'r gerddi ffrwythlon, yn nghyda'r berllan drefnus oedd gerllaw iddo; gan hyny, awn i mewn i edrych pa fath olwg sydd yno,

Nid oedd modd fod dodrefn gwell, eu hunig fai a'u prif brydferthwch ydoedd eu bod yn bur hen. Y mae'n wir fod ryw fath o leithder awyrol yn yr ystafelloedd: ond nid oedd hyn ond effaith peidio ag agor y ffenestri, a diffyg goleu tanau: deuai pethau fel hyn i'w trefn yn bur fuan wedi cael pobl iawn i fyw ynddo. Daeth y par ieuanc yno hefo'u gweision a'u morwynion, ac yr oedd pob peth yn addaw hawddfyd iddynt yn eu lle newydd. Caed pob peth i drefn yn fuan, a choeliai pawb fod llawenydd a dedwyddyd yn aros ac am fod yn eu plith. Ond, "Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog," ac nid wrth y diwrnod a'r noson gyntaf yr oedd barnu pa fodd y digwyddai yn y plas. Tua haner nos, pan oedd pawb yn eu gwelyau y noson gyntaf, clywid y drysau yn dechreu clepian, a sŵn gwynt mawr yn suo drwy'r coed llwyfen oedd yn rhes yr ochr draw i'r pysgodlyn, a rhyw dwrw cerdded hefyd o'r naill fan i'r llall. Deffroes pawb drwy'r tŷ, ond ni fedrodd neb gael ar ei feddwl godi. Ysgydwai'r muriau fel llong mewn tymhestl, neu'r coed gan gorwyntoedd, ac yna distewai'n ddisymwth. Tua dau o'r gloch caed heddwch. Sisialai'r gweinidogion y bore dranoeth, ac yr oedd dau neu dri o honynt wedi cael digon ar eu hoedl yn y fath le, a phenderfynasant fyned at eu meistr a'u meistres mor fuan ag y deuent i lawr i ddweyd na fedrent aros yno am