Tudalen:Cymru fu.djvu/468

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arno dd'od gydag ef am un noson i'r plas, er mwyn cael gweled, os oedd modd, pa beth oedd gwir achos yr holl gynhwrf a'r rhith-ymddangosiadau hyn. Coeliai'r Meddyg nad oedd y cwbl ond effaith rhyw nwy, ac fod yn bosibl rhoi terfyn ar y cyfan. Ar ol cryn ystyried, addawodd fyned, ac felly, hwyliasant eu hunain yn gysurus gogyfer a'r hyn oedd o'u blaen. Yr oedd gan y Meddyg gostowci milain a chryf gartref, a phenderfynodd fyned a hwnw yn nghyda llaw-ddryll a chleddyf yno, rhag na byddai dim diffyg arfau, os y byddai galwad am danynt. Aethant i'r plas yn lled gynar, a dechreuasant hwylio gwneud tân mewn un ystafell,—yr ystafell ag y bu'r gŵr ieuanc ynddi y ddwy noson cynt; a chan fod yno ddigon o gynud sych wrth law, nid rhyw hir y buont nad oedd yno ddigon ohono. Yr oedd y ddau yn hapus ddigon yn sôn am y peth yma neu'r peth draw, a'r ci mawr yn gorwedd yn dawel o flaen y tân. Rhwng un-ar-ddeg a haner nos, dyma'r ci yn codi ei glustiau ac yn eu moelio yn enbyd: cododd ar ei golyn; clustfeiniai'n astud. O'r diwedd cododd yn sydyn ar ei draed, ac edrychai at y drws, ac yna at ei feistr. Ni ddywedodd neb yr un gair, ond dyma fo'n dechreu crynu ac yn ymwasgu rhwng coesau'r Meddyg. Nid oeddynt hwy yn gweled nac yn clywed dim. Ar hyn, dyma dwrw cerdded oddiwrth ben y grisiau at ddrws eu hystafell hwy, ac yna dyna dri chnoc ar ddôr. "Dewch i mewn," ebai'r Meddyg, a gafaelodd yn ei law-ddryll, "Dewch i mewn. Yr oedd arnom eisiau cael cwmni." Ac at y drws ag ef; ceisiodd ei agor, ond ni fedrai mo'i chwimiad. Ar hyn, gwelai, pan droes at y tân, ddyn yn sefyll a'i gefn at y simneu, ac fel yn rhoi pwys ei gefn ar y fantell, a'i ddwylaw o'r tu ol o dan gynffon ei gôt. Gofynodd i'w gyfaill nesu oddiar y ffordd y saethai ef beth bynag oedd yno: ond dyma rywbeth yn gafael yn ei ddwy fraich o'r tu'n ol ac yn ei gyffio ar unwaith. Ceisiodd waeddi, ond ni ddeuai ei lais allan. Yr oedd ei gyfaill yn eistedd ar erchwyn y gwely, ac yn gwylied crwydriadau ryw oleu bach gwyrdd a dreiglai hyd y llawr. O'r diwedd dyma fe'n cynyddu'n bêl goch, ac yn suddo i'r coed. O'r fan yr aeth y tân o'r golwg, dyma lawyn d'od allan! Cipiodd yntau y cleddyf oedd ar y bwrdd a cheisiodd i thori. Ond er iddo roddi'r cleddyf drwyddi laweroedd o weithiau, dyna lle'r oedd hi o hyd. Edrychodd arni yn graff, a phan oedd yn gwneud hyny, teimlai y llofft o dano fel yn codi bob mymryn. Meddyliodd y pryd hyny am ofni," "ond na," meddai wrtho'i hun, er fod arnaf