Tudalen:Cymru fu.djvu/469

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arswyd, cadwaf fy meddwl yn lân oddiwrth ofn. Nis gall y pethau rhyfedd hyn wneud dim niwaid i mi, os y medraf gadw fy MEDDWL yn glir." Ond yn awr dechreuodd pethau edrych yn hyllach o'r haner nag o'r blaen. Daeth cloben o neidr anferth i mewn o dan y drws, ac ymlusgai i'r gwely, a thyma ryw greadur arall anferthach fyth yn ei dilyn, ac un arall ar ol hyny, a danedd ganddo fel danedd og, a'r rhai hyny yn dân byw. Ac o gwr arall i'r ystafell, heb fod yn mhell o'r fan y gwelwyd y llaw, dyma ryw wreichion mân yn dechreu codi allan, ac yn hedeg o amgylch-o-gylch yr holl le. Rhyw fath o chwysigenod bob lliw a llun,-rhai gwyrddion, rhai cochion, rhai melynion, rhai glas-gwan, ac eraill rhudd-goch fel tân marwor. Hedent yma ac acw,-i lawr ac i fynu, ac o'r diwedd dechreuasant ymffurfio yn fath o ddrychfilod anolygus, cyffelyb i'r bwystfilod cethin a welir gyda chwydd-wydr mewn diferyn o ddwfr, ac yna dinystrient a llyncent y naill y llall. Ond yr oedd yr ystafell yn llawn o honynt: yr oeddynt hyd fy nillad, yn cripio hyd fy ngwyneb yn llenwi fy ffroenau, ac yn ymlusgo hyd fy nghlustiau! Yr oedd y tân hefyd yn ymddangos fel pe wedi diffodd, a'r ganwyll yn pallu goleuo. O'r diwedd, dyma'r sarph dorchog oedd wedi dolenu o gwmpas post y gwely, yn llyncu pob trychfil o honynt, ac yn siag-wigio'r ddau beth hyll a ddaeth i mewn ar ei hol, ac yna'n ymchwyddo, nes oedd yn haner llonaid yr ystafell, ac yn trawsffurfio ei hun i fenyw brydferth tua phump ar hugain oed! Yr oedd y ganwyll erbyn hyn wedi d'od i oleuo fel cynt, a'r tân lawn mor siriol ag oedd pan ddaeth y pethau i'n cythryblu. Ond nid oedd yno ddim hanes o'r Meddyg. Safai'r ffurf yno'n ddiysgog. "A minnau," ebe'r gwr ieuanc wed'yn yn mhen blynyddoedd, "a geiriau ddigon ar fy nhafod, ond yn fy myw nis medrwn eu hysgwyd allan." Diflanodd hon yn araf drwy y ffenestr, ac yna nid oedd ond y gŵr ieuanc yn yr ystafell, a phob peth o'i mewn oedd fel cynt, heb eu rhwygo na'u cyfnewid. Eisteddodd wrth y tân am enyd hir i edrych a ddeuai ei gyfaill ddim o rywle yn ol. Wedi blino'n disgwyl a phob peth yn llonydd, aeth at ben y grisiau: ond ni welai ddim arlliw o hono. Aeth yn ei ol, ond pan wrth ddrws ei ystafell dyma ddyn yn sefyll o'i flaen,—dyn mewn dillad hollol wahanol i ddim a wisgir gan neb sefyllfa yn y dyddiau hyn. Rhoes ei law ar ei ysgwydd, yna diflanodd! Yr oedd y tân erbyn hyn yn dechreu myned yn isel, a'r ganwyll wedi byrhau cryn lawer; aeth yntau i