Tudalen:Cymru fu.djvu/471

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y nos hon erioed. Aeth i feddwl gweddio, ond yr oedd yn rhy lesg a di-yni at y gwaith. Methai ysgwyd ei dafod, ac ni symudai ei yspryd. Pan yn y trybini hwn, clywodd geiliogod y tai oddeutu yn cyhoeddi plygain; siriolodd hyn beth arno, ac aeth yn araf deg gan afael yn y coed at y plas. Yr oedd yn disgwyl o hyd fod y Meddyg yn rhywle o'r cwmpas. Wedi cyrhaedd yno; (nid oedd dim arswyd mwy, oblegyd yr oedd wedi pasio caniad y ceiliog), aeth i mewn o lech i lwyn, ond nid oedd yno neb ar ei gyfyl. Rhoes goed ar y marawydos, ac yna gorweddodd ar y gwely: pan oleuodd y tân gwelai'r ci yn un clap wedi ymwthio i ryw gornel fach, ond ni feddyliodd fod dim ond effaith dychryn arno. Erbyn iddi wawrio ac iddo yntau agor y ffenestr, gwelai fod y ci wedi marw yn gelain gegoer, a bodolion mathru a gwasgu arno. Synodd pa beth a allai fod wedi dyfod o'r Meddyg, a dechreuodd fyfyrio pa'r un oedd goreu iddo, ai myned i'r lle bu gyda'r dyn (os dyn oedd efe hefyd) yn ystod y nos, ai ynte myned adref a pheidio byth wed'yn a d'od ar gyfyl y lle, na son gair am a welodd ac a glywodd. Bu rhwng dau feddwl am dipyn; ond o'r diwedd dechreuodd ochri o blaid gwneud cais, poed a fo, i weled a oedd yno rywbeth ai peidio. Yn chwil fore aeth a rhaw bâl ar ei gefn at y lle, yn y sinach, yr ochr bellaf i'r berllan, a daeth o hyd i'r fan a nodwyd iddo heb rhyw lawer o drafferth. Dechreuodd balu a chloddio, ac ofn erbyn hyn wedi cymeryd lle arswyd; pan yn cloddio, daeth ar draws careg wastad, ac o dan hono dyma grochan pridd lled fawr, ac yn hwnwyn uchaf peth yr oedd rhol o femrwn. Cododd y memrwn a gwelai bethau eraill digon cymeradwy yr olwg arnynt o dano, ac yn eu mysg ddysgl wen a dŵr ynddi. Cauodd y lle yn ol, ac ni chymerth ond y meinrwn yn unig gydag ef ymaith. Troes ei wyneb tuag adref yn dra diffygiol; er hyny, erbyn hyn, yr oedd yn fwy ystig nag y buasid yn meddwl; oblegyd yr oedd yr hyn a addodd ar ol ei weled, yn ymyl y berllan, wedi ei fywiogi yn anwedd. Pan wedi myned gryn encyd oddiwrth y plas, cwrddodd brawd i'w wraig ef mewn cerbyd, ac felly cyrhaeddodd adref; ond heb fwyta un tamaid nag yfed un gyffiniad aeth i'w wely, a chysgodd; ac yn y cwsg poeth berwedig hwnwy bu am fwy na naw niwrnod yn ddi-dor! Pan yn y dwymyn boeth, yr oedd yn siarad peth enbyd am yr hyn a welodd; a chan ei fod yn anhawdd ar brydiau ei ddal yn ei wely, galwyd am yr hwsmon yno i'w wylied, —yn ei glefyd yr oedd wedi colli arno'i hun, ac yn siarad