Tudalen:Cymru fu.djvu/472

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefo'r pethau a weles yn ddi-ball. Ac nid oedd dim yn fwy aml ganddo na'r crochan pridd, a'r lle arall yr ochr draw i'r llyn wrth fcnyn y goeden, &c. Coelient oll mai wedi dyrysu'r oedd, ac nad oedd y cwbl a draethai ond creadigaethau ffansi, wedi cael ei gollwng yn rhydd oddiwrth ofal rheswm. Bu felly yn y cyflwr gwyllt hwn am yn agos i bythefnos, a phan ddechreuodd droi ar fendio, hir ac anniben fu heb dd'od ato'i hun fel cynt.

Yn awr, pa le'r oedd y meddyg? Bu ef ar goll am ddeuddydd neu dri. A'r pryd y cafwyd ef, yr oedd mewn sefyllfa mor lawn o bob ofnau fel y meddyliodd y rhai a ddaethant ar ei draws mai myned ag ef ar ei union i'r gwallgofdy oedd y peth goreu. Mewn coedwig, ryw ugain milltir oddiwrth ei gartref, yr oedd hen dderwen fawr gafniog. Yr oedd o'r tu mewn yn holwy gwag. Ryw ddiwrnod wrth fyned drwy'r coed, ac ar ddamwain yn pasio'r hen goeden, troes dau ddyn i'w hedrych, ac o'r tu mewn, fel pe buasai wedi marw, cafwyd y Meddyg; yr oedd ganddo law-ddryll llwythog gydag ef, a'i wyneb yn gripiadau dyfnion, a'i ddillad yn llyfreiai gwylltion am dano. Yr oeddynt yn meddwl pan welsent ef gyntaf ei fod wedi marw, ond ar ol nesu ato gwelsant mai cysgu yr oedd; deffroisant ef; ond nid oedd ganddo ddim croen ar ei chwedl, a choeliai y dynion hyn mai wedi yfed ar y mwyaf yr oedd, a bod y pethau gleision hyny wedi ymddangos iddo a'i yru'n wallgof! Cariasant ef at dy tafarn cyfagos, ac yno y cawsant hanes am y "Noson yn y Plas," &c. Aed ag ef adref, a bu am fisoedd mewn sefyllfa beryglus. Gwellhaodd i raddau, ond nid byth fel cynt. Ni ddilynodd ei waith ar ol hyn, ac yr oedd ei olwg hurt yn dangos ei fod wedi cael ei gynhyrfu gymaint fel nad allai byth dd'od ato'i hun fel ag yr oedd cyn i'r peth mawr yma gymeryd lle. A thyna gafas y Meddyg; ond y gwr ieuanc ar ol ychydig o wythnosau a wellhäodd rhag blaen, ac aeth at y plas cyn gynted ag y medrodd; ond er ei fawr syndod yr oedd rhywun wedi bod yno, ac wedi cael hyd i'r crochan pridd, a'i gynwys, chwi a ellwch feddwl. Aeth i'r ochr arall i'r llyn, ac yno dan wraidd hen foncyff o bren mansarn, cafodd goffr derw, ac yr oedd yn rhaid cael gwif i'w dynu'n rhydd. Ond tynwyd ef allan, ac aeth y gŵr ieuanc ag ef adref heb ei agor. Ond pan gafodd ei agor yr oedd yn llawn o drysorau gwerthfawr. Chware teg iddo! aeth dranoeth at Syr Hwn-a- Hwn a dywedodd wrtho pa beth oedd wedi digwydd, a dangosodd iddo'r memrwn. Ar ol ei edrych yn fanwl