Tudalen:Cymru fu.djvu/473

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofynodd y boneddwr iddo a welodd ef rywbeth yn y crochan heblaw y peth hwnw. "O! do," ebai yntau, "yr oedd yno aur laweroedd, ac yr oedd yno hefyd ryw ddysgl fach a dwr gloyw ynddi, ac ar y dwr yr oedd cnepyn o bren tri-sgwâr yn nofio yn aflonydd. Mi gymerais I hwnw allan ac mi deflais y ddysgl, oblegyd yr oedd yn drewi yn arswydus, ac mi dorodd, ac wed'yn mi a gymerais y memrwm ac a gauais ar crochan gan feddwl myned yno drachefn, ond gan i mi fod yn sàl iawn, nis gellais fyned yno mewn pryd, oblegyd pan aethum nid oedd yno ddim ond lle bu'r crochan a'r oll oedd yuddo; ond mi fum yn fwy ffodus hefo choffr a gefais mewn lle arall, ac yr wyf am i chwi gael gwybod ei gynwys." "O! na," meddai Syr Hwn-a-Hwn, "cymer a gefaist a dyro'r diolch i Dduw am danynt," a bu'n llawen ganddo oherwydd hyn. Cymerth y memrwn, ac ebai'r boneddwr witho pan yn cychwyn adref, "Cymer ofal o hwn yna. Cei lonydd i fyw yn y plas mwy. Dos yno'n fuan a gwna yn fawr o'th ddigwyddiad, a deuaf yno cyn hir i ymweled a thi.” Wrth fyned ar hyd y ffordd adref nid oedd dim ond dau beth yn ei flino, sef colli yr hyn oedd yn y crochan, ac afiechyd parhaus ei gyfaill dewr y Meddyg. Am yr olaf nis gallai wneud dim ond cynyg rhan o'r cwbl a gafodd, ond ni fynai hwnw son am y peth. Ac am y blaenaf daeth i'w ben wneud un cynyg am gael y peth allan. Yr oedd yn gwybod erbyn hyn, fod yr hwsmon gydag ef pan oedd yn ei anhwyl, a phriciodd rhywbeth ef y gallasai ddweyd cymnaint am y crochan pan yn ei glefyd nes peri i'r dyn fyned i'r fan a'r lle i chwilio am dano a'i gael. Aeth adref, a chymerth y memrwn yn ei law, ac aeth at dy'r hwsmon, a thyma fe'n agor y rhôl femrwn, ac yn dweyd mai hwnw a barai'r helynt fwyaf o bob peth. Os y dywedasai'r hwsmon pa faint a gafas, yrholiaiy memrwn yn y fan: ond os na wnai, fe gai'r hwsmon fyned drwy'r un prawf ag yr aeth ef ei hun drwyddo! Dychrynodd yr hwsmon pan welodd y memrwn a rhedodd dan y gwely, ac yno'r oedd y crochan yn haner llawn. Am iddo fod mor anonest digiodd y gŵr ifanc witho. Er hyny, rhoddodd iddo ddigon i fyw yn dawel am y gweddill o'i oes, ac nid oes dadl nad aeth y gŵr yn gyfoethog iawn, ac fe ddywedir fod ei deulu fel yntau yn gyfoethog o hilgerdd ar ei ol. Aeth y gŵr ieuanc i'r plas i fyw, ac ni chlywodd na chynhwrf na chythrwf yno fyth ar ol y noson fawr," a "chlywes fy nhaid ei hun yn doidid pw mor enbid," ebe'r adroddydd, "oidd hi arno fe y nosweth