Tudalen:Cymru fu.djvu/474

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyni." A thyna ddiwedd y chwedl yna, heblaw crybwyll fod un o deulu cyfoethocaf yn deilliaw o'r gŵr a gafodd yr arian daear.

TRADDODIADAU ERYRI.
GAN GLASYNYS.

Y DDWY DDRAIG YN LLYN DINAS

PAN oedd Merddin Emrys wedi adeiladu castell i Gwrtheyrn Gwrthenau, myned a wnaeth y brenin i'w ben un diwrnod, a chanfod a ddarfu ddwy ddraig yn ymladd yn y llyn, sef draig goch a draig wen. Ar ol edrych arnynt a sylwi ar y ddwy yn ymornestu mor filain, galwodd ato Merddin Ďdewin, a gofynodd iddo pa beth oeddynt. Merddin yn wybyddus yn nghyfrinion a chel-ddysg ddew- inol yr oesau. a eglurodd iddo, neu ynte a brophwydodd pa wedd y byddai ar genedl y Cymry am ganrifoedd lawer. Y ddraig goch oedd cenedl y Cymry, neu'r Brutaniaid, a'r wèn y Saeson. Neu y ddwy elfen anghydfod. Yr oeddynt wedi cael eu "cuddio" er's llawer oes gan "Lludd ap Beli yn ninas Affaraon, yn nghreigiau'r Eryri," ac yn amser Gwytheyrn y datguddiwyd y cudd, sef y dreigiau. Dywed Nennius i Myrddin egluro cyfrin y dreigiau; a dywed eraill hanesyddwyr, i'r dreigiau ladd y naill y llall, ac i'w gwaed lifo mor ofnadwy nes cochi dwfr y llyn. Ond y goel gyffredin ydyw i'r ddraig a welwyd yn y llyn gyntaf, yr hon oedd dawel a diniwaid, ar ol ffrwgwd echrydus, ladd y llall a daeth ar ei hol i'r dwfr, a chyfodi o honi ar ol diwedd yr ymgyrch uwchlaw gwyneb y llyn, ac ysgerbwd ei gwrthwynebydd ganddi ar ei chefn, a'i bod yn fflamgoch o waed ei hymosodydd. Iddi, er cael ei briwo'n dost aethus, orchfygu; ac er hyny daeth Pendragon yn gyfenw unbenol ar ein Tywysogion, yn enwedig y rhai a lywyddent eu byddinoedd yn erbyn eu gelynion, a thyna ddechreu yr hen ddywediad milwrol ac unbenaethol, "Y Ddraig Goch a ddyry gychwyn."

O. Y. Y mae'n wir i Deio ab Ieuan Ddu ddefnyddio'r llinell, mewn Cywydd o'i eiddo yr hwn sydd yn