Tudalen:Cymru fu.djvu/476

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llais arall yn y byd ar bib; ond ar ol gwybod lle y tyfasai y Gorsen, ni cheisiodd ef na chelu'r mwrdwr na chuddio'i glustiau ddim yn hwy.

Hwn a ddygodd Esyllt gwraig Trustan (neu Drustan ei wraig ef, nis gwn pa ryw un, ond pa ryw un bynag, nid o'i hanfodd hi,) ag a ffoes i'r coed hefo hi, ac nid oedd ef yn dyfod i'w dalfa nhw y rhai oedd yn ceisio cytuno'r ddwy blaid, gan ddywedyd haws yw dyddio o goed nag o gastell, ond ar ol hir grefu efe a fu yn foddlon i roi ar farn Arthur, yr hwn a farnodd i un i'w chael hi tra byddai'r dail ar y coed, a'r llall i'w chael hi tra byddai'r coed heb ddail, ag i'r gwr priod i gael ei ddewis gyntaf, yr hwn a ddewisodd ei chael hi tra byddai heb ddim dail ar y coed; hithau a atebodd yn llawen, "Bendigedig yw Barn Arthur ; Celyn, Eiddew, ac Yw, Ni chyll mo'i dail tra b'o nhw byw." A'r gŵr a ganodd fel hyn neu ryw un trosto.-"Tybygaswn, teg Esyllt, ffriw dirion, ffrwd oerwyllt, gwawr raddol, eurad wallt, (neu gwawr raddol ireidd wyllt, neu gwawr rudded eurad wallt, neu wyllt yn lle gwallt os oes y fath air yn arferedig,) gwiw roddiad gad gain; Na, besit bûn weddaidd, gnwd eira, gnawd iredd, gwadolwedd, mawr foledd mor filain."

Tair gwaith y sylfaenwyd Capel Gwyneu, ac yn ol darogan Rhobin (neu Ddafydd) ddu, y mae eto, ag a fydd byth, yn anorphen, sef heb ei gysegru. Hafod Lwyfog₁₀ a enwir felly o ran fod yno brenau Llwyfane, ond heblaw yr enw hwnw, mae iddi enw arall mewn Cywyddau, sef Hafod Lwyddog. Yr achos fod coed yn ngwaelod llynau wedi eu tori, yw o ran bod coed cyn amled mewn dyffrynoedd ag na ellid er's talwm mor myned ond ar hyd penau mynyddoedd, ac yr oedd hyny yn anghyfleus i gario pynau a llawer byd o bethau heblaw hyny; ag o ran hyny ddarfod tori derw mawr a'u taflu i'r llynau, ac y mae rhai yn cofio oherwydd clywed dywedyd fod rhai gan dewed y derw yn eu tori ac yn eu llosgi ar y maes, ond odid nad oeddynt yn gwneuthur hyn pan allent eu bwrw nhw yn haws i lynau. 'Roedd y deyrnas hon gynt yn llawn o anialwch, fel y gwyddoch; ag y mae llawer o fanau wedi cael eu henwi oddiwrth goed, (yn Nghymru). Yn Nanthwynen 'roedd coed cyn dewed fel na welid dyn ar farch gwyn o Lyn Dinas i ben y gwryd, ond mewn dau fan, ag a elwir un o'r manau yma er hyny y Goleugoed,₁₁ y rhai'n oedd uwch ben fan lle'r adeiladwyd tref Nanhwynen. Mae Llwybr Elan Lueddog12 rhwng Maen Gwynedd a Bwlch y Ddwylech ar fynydd Berwyn, ag a elwir llwybr