Tudalen:Cymru fu.djvu/477

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cam Elan. Mae llwybr arall yn mlaen Ffestiniog, yr hwn sy'n dyfod tros fwlch careg y fran, ac o ran ei fod ar draws y ffordd, a elwir croes ar saru; ag y mae'n dyfod i Gwm Penammeu, lle y gelwiref Ffordd-wneuthur, ag yn myned oddiyno trwy blwy Dolydd Elan trwy Lyn Llugwy ag a elwir Sarn ar fynydd, ac y mae yn myned trwy blwy Llan Rhychwyn ag i Gonwy. (Aber Cowneu o ran fod dwy gowneu yn cyrhaedd tros yr afon mewn un man, lle y mae hi yn draeth llydan yn awr). Elan a ddaeth o Gonwy i Nant tal y llyn lle lladdodd Cidwm gawr o'i gastell a saeth ei mab hi; mae tỷ lle y claddwyd ef ag a elwir tŷ yn medd y Mab, ac Ysgubor Ifan (wrth hyn mae rhai yn meddwl mae Ifan oedd gelwid ef,) hi a ddaeth tros Gadair yr Ychain (cadair aur wrychyn) lle y gwnawd Sarn o'i blaen hi, hi ddaeth oddiyno gyda glan Llyn Dinas, lle y mae ei sarn hi fyth, ag oddiyno trwy Nantmor, a tros fwlch (lle bu faes rhyngddi a rhyw un) a elwir er hyny Bwlch y Battel, ag i gwm lle y clybu hi gyntaf farw o'i mab, ac ar ol y newydd anedwydd hwnw hi a ddywedodd Croesawr13 fel y gelwir hi hyd heddyw y cwm hwnw. Chwi a wyddoch o b'le y cafodd Beddgelert yr enw hwnw. Mae llech yn Nanhwynen lle yr oedd gynt geffylau yn tripio, rhag hyn y darllenwyd yr Efengyl arni ag a elwir Llech yr Efengyl.14"-Allan o'r Cambrian Journal. Alban Elfed 1859. Edward Llwyd 1693.

Yn y darn blaenorol y mae'r hynafiaethydd penigamp E. Llwyd yn cyffwrdd ag amryfal chwedlau, ac yn eu cymysgu yn ddi-drefn ddi-reol: er mwyn eu crynhoi yn daclusach a'u gosod yn drefnusach, rhoddaf hwy yn fath o eglurhad ar y gwaith uchod yn llawn llythyr gan adgyweirio ei amryfuseddau aml ef. Nid o'i fodd ond oherwydd diffyg hyfforddiant, yr aeth ef iddynt, oblegyd ni bu neb hynafiaethydd yn ein gwlad a ystyrid yn fwy manwl a chywir oddieithr Iolo Morganwg, nag Edward Llwyd. Yn wir y mae ei waith yn faen prawf a threul- iodd oes ddiwyd a llafurus dros ben yn egluro tywyll, dyryslyd, a throellog, bethau hynafol ei wlad. Er hyny gwnaeth amryw gam-gymeriadau pur bwysig.