Tudalen:Cymru fu.djvu/479

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

canfod un tŷ yn awr yn dwyn yr enw dan sylw. Ond o ran hyny, y mae cymaint o gyfnewidiadau wedi cymeryd lle er oes "Y gwr blew," fel mai peth gwyrthiol fuasai gallu d'od o hyd i fwthyn yn meddu yr un enw yn awr a'r pryd hwnw.

5.—Y bu lan, &c.—Y mae Edward Llwyd yn camgymeryd. Nid oes yn awr, ac ni fu dim cymaint ag un crybwylliad gan yr un awdwr am gapel nac eglwys ar dir Hafod Llan, nac ychwaith yn nes ato na phen uchaf y nant. Tu isaf i Hafod Lwyfog, gerllaw y fordd fawr, y mae ol Capel Gwyneu. Os edrychir i "Fonedd y Saint, ceir fod Gwyneu yn Santes, a bernir fod Llanwnen yn Ngheredigion wedi cael ei gysegru ganddi. Y mae y fynwent yno i'w weled yn awr, ac hefyd adfeilion neu olion y sylfaeni. Hafod y Llan, a Cwm Llan oeddynt ran o'r glasdir ag oedd yn perthyn i Fynachlog Beddgelert. Dywedir fod gan Robert, Prior y lle, fuches fawr, a pha le cymhwysach i gadw Hafod na'r lle hwn gan fod y porfeldir cylchynol yn eiddo'r Fynachlog. Ond hyn sydd amlwg ddigon fodd bynag, nad oes yma'n awr ar gof a chadw na thraddodiad na pheth yn nghylch y Llan hon : tra y ceir am y llall ddigonedd o honynt.

6.—Ednowain Bendew.—Y mae awdwr dysgedig Enwogion Cymru wedi syrthio i'r un amryfusedd ag Edward Llwyd. Dyry Ednowain Bendew yn lle Ednywain ab Bradwen. Pe creffid ar eu pais arfau, gellid yn hawdd ganfod mai nid yr un ydynt. Pais arfau y Pendew oedd tri phen baedd, a'i gyswyn ofner na ofno angau," tra y mae pais arfau y llall yn dwyn, Gules, tair neidr yn nghwplws mewn cnottyn triongl o arian. Deillia y blaenaf o Gwaethfoed fawr o Bowys, ac yn ngororau Dyffryn Clwyd y mae ei hil hyd yn awr. Disgynydd o hono ef oedd y diweddar Dr. Bethel, Esgob Bangor; ac hefyd ein gwladgarwr dysgedig Ab Ithel. Ond y mae disgynyddion uniongyrchol yr olaf wedi pallu. Ednyfed ab Aaron, uno honynt, a guddiodd Owain Glyndwr am hir o amser, unwaith mewn ogof ar lan y môr heb fod yn neppell o Lan Gelynin, a gelwir y lle hyd heddyw, "Ogof Owain Glyndwr." Y fan yr oedd Ednywain ab Bradwen yn byw ydoedd Llys Bradwen yn nghwmwd Cregenau yn Meirion. Y mae olion y Llys i'w gweled eto. Gerllaw i lan yr afon Cregenau y mae gweddillion adeilad lled fawr. Y mae'r lle yn rhyw ddeg llath ar hugain petryal : a'r porth yn eithaf saith droedfedd o led. Y mae'n debyg mai cymeryd Tomen y Mur yn lle'r llall a wnaeth. Neu