Tudalen:Cymru fu.djvu/481

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei ben" mewn cariad hefog Esyllt, gwraig March, ac am hyny gelwir ef yn y Trioedd yn un o "dri serchawg' Ynys Prydain, y ddau arall oedd Caswallon ap Beli a Cynon ap Clydno. Gyrodd Arthur wyth ar hugain o farchogion i'w ddala, ond ffoes ef a hithau i'r coed, a methasant yn glir faes a'u dwyn at y brenin, hyd nes i Gwalchmai dafod aur ei hudo; a rhaith Arthur oedd iddynt ei chael bob yn ail, sef un tra byddai dail ar y coed, a'r llall pan byddai diddail a moelion yr unrhyw. Dewisodd March yr amser diddail: ac am hyn y tores hithau allan yn orfoleddus fel yma, "Bendigedig yw barn Arthur,

Celyn, Eiddew, Ffaw ac Yw,
Ni chyll mo'n dail tra bo nhw byw."

Pan glywodd March hyn, edrychodd yn ddifrifddwys arni, a thyma ei atebiad galaethus, iselfryd, a thrymglaf iddi. Ond eithaf gwers i hen glymach cybyddlyd oedd hyn, Nid ag arian y prynir serch:—

"Ty'gaswn teg Essyllt, ffriw dirion, ffrwd oerwyllt,
Gwawr ruddedd eurad—wyllt, gwiw roddiad gad gain:
Na besit bun weddaidd, gnwd eira gnawd iraidd,
Gwadolaidd, mawr folaidd, mor filain."

Ymddengys mai un o foesau lled anghyweithas oedd Esyllt, ac y mae hi a'i dwy chwaer yn cael eu cyfenwi yn barhaus yn y Trioedd, yn dair anniweirwraig Ynys Prydain." Y ddwy arall oedd Bun, gwraig Fflamddwyn (Ida, brenin Northumberland); a Penarwen, a gwraig Owain ap Urien Rheged ydoedd. Y mae Trystan yn gymeriad arbenig yn y Mabinogion, ac y mae chwedleu— oniaeth fydryddol hynafol y Cyfandir yn cael eu haddurno à champau Syr Tristram.

10. Hafod Lwyfog.—Hen balasdy mynyddig o gryn lawer o enwogrwydd yn yr oesoedd gynt. Tebyg ddigon mai oddiwrth y llwyn llwyfanau y cafodd ei enwi felly. Yr un fath a Celynog o Celyn, Rhedynog o Rhedyn, &c., cyffelyb yntau: yn wir y mae o gwmpas y lle eto amryw lwyf, ac arwyddion amlwg fod er's talm lawer byd yn ychwaneg. Y mae'n wir i rai o'r beirdd yn yr unfed cant ar bymtheg er mwyn y gynghanedd newid yr enw yn Llwyddog," ac y mae chwedl wneuthur lled ddiweddar fel hyn am y lle.

HAFOD LWYDDOG.

YR oedd yma gynt fugail yn aros yn Nghwm Dyli, a myned y byddai bob haf i fyw yn mysg y defaid mewn