Tudalen:Cymru fu.djvu/482

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

caban sitrach gerllaw y Llyn Glas. Un bore, pan yn deffro yn ei hafoty wledig, canfu er ei fawr brofedigaeth ferchetan ddigon glan a chryno yn trin plentyn yn ei ymyl, ac nid oedd ganddi nemawr i roi am y truan bach anwydog. Cyfododd y bugail ar ei benelin ac edrychodd yn dosturiol arni, ac yna cymerth afael mewn hên grys tipiog a thaflodd ef iddi, a dywedai, "Cymer hwn, druan, a rho fo am dano." Cymerodd hithau y dernyn hen grys yn eithaf diolchgar, ac aeth ymaith. Bob nos, yn brydlon, ar ol hyn, mewn hen glogsan ag oedd yn y caban, ceid dernyn o arian gleision. Parhaodd felly am hir feithion flynyddoedd, ac aeth Meirig yn gyfoethog ddidrefn. Priododd, a daeth i'r Hafod i fyw, a pha beth bynag a drinai, llwyddai o dan ei law, ac oddiwrth hyny y galwyd y lle yn Hafod Lwyddog oblegyd y llwydd anghyd- marol a ddilynodd ymdrechion Bugail Cwm Dyli. Yr oedd y Tylwyth Teg yn talu eu hymweliadau nosol â'r Hafod, ac ni thyciai gŵg un rwyll, na swyn-gyfaredd un ddewines yn erbyn y fan, canys yr oedd " bendith y mamau yn cael eu hidlo yn gawodydd ar y teulu; felly, er symud, caed yr un fath roddion ganddynt, ac yn naturiol ddigon yr oedd Meirig Llwyd, a'i epil ar ei ol, yn cael eu cyfrif yn arianog i'w ryfeddu. A thyma chwedl Hafod Lwyddog.

HAFOD LWYFOG.

Yr oedd pobl Hafod Lwyfog tua haner can' mlynedd yn ol yn cael eu haflonyddu yn enbyd gan ryw fod anweledig. Ddydd a nos, yn hwyr ac yn fore, byddai y drychiolaeth yn cythryblu'r teulu! Ni chai y defaid gwirion ar lechwedd y mynydd, na'r gwartheg druain ar y porfeldir, mwy na'r teulu yn y tŷ, ddim llonydd. Lluchid y gweision, a llybindid y morwynion y ddibaid, nes yr oeddis wedi meddwl ei bod hi yn haner uffern yno. Awd i Laneilian a Dinbych, ond ni lwyddasid. Methwyd a gostegu'r pethau anhywaith a flinent bobl Hafod Lwyfog. O'r diwedd, penderfynwyd myned at ŵr eglwysig pur nodedig yn ei ddydd. Yr oedd eisoes wedi medru gostegu cythrwfwl Gwynfynydd, neu Yspryd mawr Llanegryn.' Yno y daeth yr offeiriad hybarch, ac ar ol ymdrech ofnadwy gallodd orthrechu y cryf arfog; ac o hyny allan caed llonyddwch i mewn ac allan, a myn y werin mai hen felldithwraig fawr Beddgelert oedd achos yr holl gyf-ymliw a'r trybini anesgorol hwn. Ni welwyd moni hi, beth bynag, fyth ar ol hyn, allan o'i bwthyn, a choeliai y rhan