Tudalen:Cymru fu.djvu/483

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fwyaf o'r oes o'r blaen, mai ei meistroli a'i diofrydu a gafodd. Y mae ei hepil yn hawdd eu hadnabod: oblegyd y maent oll a "llygaid croesion" ganddynt, fel nôd difeth eu bod yn perthyn i'r faeden ystumddrwg a barodd gymaint o ofid yn y cyffiniau hyn yn yr amser a aeth heibio; a da, hyd yn oed yn awr, os ydyw arswyd rhai o'r hil wedi diflanu yn Meddgelert.

11.—Y Goleugoed.—Y mae'r lle hwn yn dwyn yr un enw eto; digon tebyg mai teneuach y coed ar y grimpan greiglyd hon, ac y gellid gyda mwy o rwyddineb ganfod teithwyr yma o'r herwydd.

12.—Elan Lueddog.—Merch ydoedd y rhian hon i Eudaf, arglwydd Caer Eudaf, sef yw hyny, Caer yn Arfon, a phriodi a wnaeth Maxen Wledig neu Clemens Maximus, llywydd y fyddin Rufeinig yn Mhrydain, o dan yr ymer— awdwr Grasian. Cyfododd yn erbyn ei feistr tua'r flwyddyn o. c. 383. Dywed traddodiad, a phwy wyr yn well, mai ei llwybrau hi ydyw y gwahanol ffyrdd sydd yn croesi, yn groes—ym—groes, y wlad o ben bwygilydd. Gel— wir y cyfryw yn Sarn Helen. Y mae ôl un o'r llwybrau yma i'w weled ar lan Llyn Dinas, er i'r cyfryw rywsut ddianc o olwg llygadgraff y Parch. H. L. Jones, yr hwn sydd wedi llafurio yn galed iawn, i gofrestru ac i gael allan yr olion Rhufeinig. Camgymera Edward Llwyd trwy geisio dilyn ffordd Elen o Nant Tal y Llyn i Ddinas Emrys. Methais yn glir a chael dim tipyn o weddillion y cyfryw, r dyfal chwilio. Nid oes rhith o honi yn Nghwm Llan, nac ychwaith ar hyd yr holl lechwedd o'r Ffridd i Ddinas Moch. Pe buasai rywbryd wedi bod, y mae'n ddilys genyf y gallesid naill ai cael rhyw olion o honi, neu ynte rhyw draddodiad yn ei chylch. Coelio yr wyf, os byddid yn croesi, nad oedd yr un ffordd na llwybr penodol y pryd hyny. Gellir gweled llwybr Elen ar un o gaeau Meillionen, ac hefyd rhwng y Gwesty a Chwm Cloch, fel ag y crybwyllais o'r blaen, ac yn ddiameu, ar hyd yr ochr hon yr oedd ei gyfeiriad. Sonir am Gastell Cidwm. Darn o graig anferth ydyw, yn nhalcen y Mynydd—mawr, a dywedir fod yn y graig ogof o'r hon y saethodd yr anghenfil cynddyrus" y Mab." Canodd dau fardd fel hyn i Gastell Cidwm yn ddiweddar.

Castell Cidwm, trwm y tro,—a fwriwyd
O'i fawredd i angho':
Clogwyni ceulawg yno
Wela'i fyth i'w wylio fo.

Lle llid fu Castell Cidwm.—y clegir
A'r clogwyn yn gwlwm: