Tudalen:Cymru fu.djvu/485

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac ar ei dwy-rudd crynion "ddau rosyn coch, un ar bob boch," a'i genau mindlws yn ddigon a pheri codi chwant cusan ganddi ar angel. Y llanc meddalfwyn a ymdoddai mewn gwres serchiadol, a dynesu ati a wnaeth yn llednais gariadlawn, a gofyn iddi a wnaeth, a gai ef ymgom; hithau a wenodd yn hynaws, a chan estyn ei llaw, dywedai, "Eilun fy ngobeithion, yr wyt wedi d'od o'r Dechreuasant ymgyfrinachu, a beunydd ym- gyfarfyddent draw ac yma, ar hyd y gweunydd sydd o amgylch glanau Llyn y Gadair: o'r diwedd, aeth eu serch yn eirias danllyd, ac ni fedrai y dyn ieuanc fod yn llonydd yn nghwsg nac yn effro. Mynych y byddai'n selgyugian rywbeth yn debyg i'r penill melusber hwn:- diwedd.'

"O! BELLA'r wy'n hoffi dy rudd,
Mil harddach dy wefus na rhos
Myfyriaf am danat y dydd,
Tydi yw fy mreuddwyd y nos.
F'anwylyd mae nghalon yn dan,
A'm henaid yn oddaith o serch
O! tyred, atebs fy nghan,
Yr ydwyt yn fwynach na merch."


Collid y llanc pen-felyn am hir amseroedd weithiau, ac nis medrai neb frudio ei dreigl: coelid gan ei gydnabod ei fod wedi ei hudo: o'r diwedd caed allan ei gyfrinach. Yr oedd o amgylch Llyn y Dywarchen lwyni cysgodol hudd, ac yno yr elai, a phob tro yr ai yno, byddai'r wyddan yn sicr o fod yno yn ei aros, ac oblegyd hyn galwyd y lle yr arferent gyfarfod yn "Llwyn y Forwyn;" ar ol caru yn anwyl am hir amser, penderfynwyd priodi; ond yr oedd yn rhaid cael cenad tad y fun. Ryw noswaith loergan cytunwyd cyfarfod yn y coed, ac yno y daethpwyd, ond nid oedd hanes y teulu tan-ddaearol, nes yr aeth y lleuad tu hwnt i'r Garn. Yna dyma'r ddau yn d'od, a'r hen ŵr yn ddiseibiant a ddywedai wrth y cariadfab, "Ti a gei fy merch ar amod na tharewi hi â haiarn. Os cyffyrddi byth ei chnawd â'r peth yna, ni bydd mwy yn eiddo i ti, eithr dychwel at ei cheraint. Cydsyniai'r dyn yn ebrwydd, a mawr oedd ei lawenydd, ac ni sonid y pryd hyny am gynhysgaeth, oblegyd serch oedd yr unig gymeradwy waddol, er y byddai y rhieni, os gallent, yn gofalu am wneud eu rhan tuag at eu plant.

Dyweddiwyd y ddau, ac nid aml y gwelwyd pâr glanach a phrydferthach wrth yr allor ar ddydd eu priodas. Sonid fod swm enfawr o arian gwaddol wedi d'od hefo'r rhian dlosgain i Ddrws Coed noson ei neithior, ac yn fuan ar ol hyn, yr oedd bugail mynyddig Cwm Marchnad yn ddyn