Tudalen:Cymru fu.djvu/486

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfoethog a thra chyfrifol. Yn ol trefn gyffredin anian, bu iddynt blant amryw, ac ni bu dau ddedwyddach yn cydfydio erioed. Yr oedd pob peth yn myned yn mlaen yn drefnus a chariadlon am swm o flynyddau, a golud yn ymdywallt yn gronfa i'w rhan, oblegyd un ryfedd ddigon ei throion ydyw Tynghedfen. Hon ydyw merch hynaf Rhagluniaeth, ac iddi hi yr ymddiriedodd ei mam ei thrysorau i'w cyfranu yn ol ei hewyllys. A dywed yr hên air "mai i'r pant y rhed dwfr," felly yn union bu yma. Aethant yn gyfoethog dros ben. Ond "ni cheir mo'r melus heb y chwerw." Un diwrnod aeth y ddau allan i farchogaeth, a digwyddodd iddynt fyned i ymyl Llyn y Gadair, aeth ei cheffyl hi i'r donen a suddodd at ei dòr. Wedi tynu ei anwyl Bella oddiar ei gefn, a ffwdanu cryn lawer, caed y ceffyl i'r lan, a gollyngwyd ef. Yna cododd hithau ar gefn ei un ei hun, ond yn anffortunus wrth frysio ceisio rhoi ei throed yn y gwrthol (gwrthafl), llithrodd yr haiarn a tharawodd, neu yn hytrach cyffyrddodd, a phen glin y Wyddan. Cyn eu bod wedi cyrhaeddd haner y ffordd adref yr oedd amryw o'r teulu bach yn ymrithio, a chlywai sŵn canu soniarus ar ochr y bryn; a chyn cyrhaeddyd Drws Coed yr oedd wedi myned oddiarno, a bernir iddi ddianc i Lwyn y Forwyn, ac oddiyno i'r byd isod, i wlad hud. Gadawodd ei blant bach anwyl i ofal ei hanwylyd, ac ni ddaeth mwy ar eu cyfyl. Ond dywed rhai y byddai ar brydiau, er hyny yn cael golwg ar ei hanwyl un yn y wedd a ganlyn. Gan na oddefai cyfraith ei gwlad iddi rodio ar y ddaear gyda neb un daearol, dyfeisiodd ei mam a hithau ffordd i osgoi'r naill a chaffael y llall. Rhoed tywarchen fawr i nofio ar wyneb y llyn, ac ar hono y byddai am oriau meithion yn rhydd-ymgomio yn anwylfryd â'i phriod, a thrwy y cynllun hwn medrasant gael byw gyda'u gilydd nes y gollyngodd ef ei enaid allan gan awel." Bu eu hepil yn perchenogi Drws Coed am lawer oes, a chyfathrachasant a chymysgasant a phobl y wlad, a bu llawer ymladdfa fileinig, mewn oesoedd diweddarach, yn Ngwyl-mab-santau Dolbenmaen a Phenmorfa, oblegyd y byddai gwŷr Eifionydd yn gwaeddi Bellisiaid ar bobl y Penant. Yma y terfyn chwedl y Wyddan.

NODIAD. Dylwn efallai sylwi, fod y chwedl hon yn cael ei lleoli mewn amryw fanau, heb nemawr gyfnewidiad oddigerth bod enwau a lleoedd gwahanol yn cael eu cymhwyso at ei hangen. Peth rhyfedd hefyd ei bod bob amser yn canlyn llwybr Elen. Hyny ydyw, mai yn ymyl