Tudalen:Cymru fu.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrtho, "Da fyddai it' gael gwraig, a merch sydd i mi a gerir gan holl enwogion y byd." "Nid wyf eto mewn oedran priodi," atebai y mab ieuanc. "Mi a dyngaf dyngedit', na chyfarfyddi â gwraig hyd oni cheffych Olwen ferch Yspaddaden Pencawr."Gwridodd y llanc, a'i serch at Olwen a ymdaenodd tros eiholl aelodau, er nas gwelsai hi erioed. A gofynodd ei dad iddo, " Pa afiechyd sydd arnat, fy mab?" Yntau a atebodd, "Fy llysfam a'm hysbysodd na bydd i mi wraig hyd oni chaf Olwen ferch Yspaddaden Pencawr." "Hawdd ydyw hyny i ti," ebai y tad, "Arthur sydd gefnder it': dos ato ef i drwsio dy wallt, a deisyf hyn ganddo." Cychwynodd y mab tua llys Arthur ar farch ag iddo ben brithlas, pedwar gauaf oed, cryf o ewynau, a'i garnau oll ar ffurf cragen; ffrwyn o aur cadwynog oedd yn mhen yr anifail, a chyfrwy o aur gwerthfawr oedd ar ei gefn. Yn llaw Cilwch yr oedd dwy waewffon arian, miniog, tymherus, wedi eu blaenllymu â dur: mor finiog oeddynt fel y gallent glwyfo a thynu gwaed o'r gwynt, a chyflymach oedd eu disgyniad na'r gwlithyn oddiar y glaswelltyn i'r ddaear, pan fo trymaf y gwlith yn mis Mehefin. Cleddyf eurddwrn oedd ar ei glun, i'r hwn yr oedd llafn o aur, a llun croes o liw y fellten yn gerfiedig arno; ac o ifori yr oedd ei gorn rhyfel. Dau filgi bronwynion, brychion, a chwareuent o'i amgylch, a thorch o ruddem (ruby) yn cyrhaedd o'r glust i'r ysgwydd am wddf pob un; a'r un ydoedd ar yr ochr aswy a lamai i'r ochr ddeau, a'r un ar yr ochr ddeau i'r ochr aswy, ac yr oeddynt fel môr- wenoliaid yn chwareu o'i ddeutu. Pedair tywarchen a gyfodai pedwar carn ei ryfelfarch fel pedair gwenol i'r awyr uwchben — weithiau uchod, weithiau isod. Llen o borphor pedair-ongl oedd am dano, ac afal aur wrth bob congl — gwerth can buwch oedd pob afal. Gwerth tri chan buwch o aur oedd ar ei esgidiau, ac ar ei wrthaflau o ben, y glun i flaen y troed. Ac mor ysgafndroed oedd y march fel na phlygai y glaswelltyn tano tra y cyrchai at borth llys Arthur. "A oes borthor?" ebai Culhwch. "Oes, ac oni ddystewi bychan fydd dy groesaw. Myfì ydyw porthor Arthur bob dydd Calan lonawr; a'r porthorion y gweddill o'r flwyddyn ydynt Huandaw, a Gogicwc, a Llaescenyn, a Phenpingyon, yr hwna gerdda ar ei ben er mwyn arbed ei draed, nid tua'r nef na thua'r ddaear, eithr treigla fel maen ar lawr llys." "Agor y porth." "Nac agoraf." "Paham nad agori?" "Y mae'r gyllell yn y bwyd, a'r