Tudalen:Cymru fu.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y gŵr hwn." "Nid felly fy nghyfaill Cai, anrhydeddir ni pan gyrchir atom; a pho mwyaf y croesaw a roddwn, mwyaf y clod a'r enwogrwydd a dderbyniwn."

Pan ddychwelodd Glewlwyd at y porth, agorodd y dôr ar frys; ac arferai pawb ddisgyn ar yr esgynfaen, eithr Cilhwch a farchogodd i fewn, ac a ddywedodd wrth Ar-thur, "Henffych well, Penteyrn yr Ynys hon; a henffych yr isaf fel yr uwchaf, ac i'th westeion, a'th ryfelwyr, a'th gadfridogion — derbynied pawb yr henffych mor gyflawn a thydi. Boed mawr dy glod a'th enwogrwydd trwy yr holl ynys hon." "Henffych well i tithau," ebai Arthur, "eistedd rhwng dau o'm milwyr, a chei ddyddan gerddau ger dy fron a braint brenin, pa hyd bynag y byddych yma, A phan ranwyf roddion i'm gwestai a'r dyeithriaid yn y llys, i ti eu rhoddaf gyntaf." Ebai y mab, "Nid daethym yma i fwyta ac i yfed; ond os caf yr hyn a geisiaf genyt, dy fawrygu a'th foli a wnaf; os na chaf, dygaf dy annghlod i bedwar ban y byd." Ebai Arthur, "Gan na thrigi di yma, unben, rhoddaf it' y dymuniad a noda dy ben a'th dafod hyd ysych gwynt — hyd y gwlych gwlaw— hyd treigl haul — hyd y dygfor môr — hyd yr ymestyn daear — oddieithr fy llong, fy mantell, Caledfwlch fy nghledd, a Rhongomyant fy ngwaewffon, ac Wyneb Gwrthuchder fy nharian, a Charnwennan fy nghylleil, a Gwenhwyfar fy ngwraig. Myn y nef, ti a gei yr hyn a nodych yn llawen." "Trwsio fy ngwallt a fynaf," ebai Cilhwch. " Hyny a wnaf yn rhwydd," ebai Arthur.

A chymerth Arthur grib aur, a gwellaif ac iddo ddalenau arian, ac a gribodd wallt Cilhwch. Yna gofynodd y brenin i'r llanc, "Pwy ydwyt? canys y mae fy ngwaed yn cynhesu tuag atat, a gwn dy fod yn un o'm gwehelyth; dywed i mi pwy ydwyt." "Dywedaf; Cilhwch ab Celyddon o Oleuddydd ferch Anlawdd Wledig fy mam." "Gwir yw hyny," ebai Arthur, "cefnder wyt â mi; pa beth bynag a ofynech genyf, mi a'i rhoddaf it'." "Ar dy air, ac yn enw dy deyrnas," "Ie, yn llawen." "Dymunaf arnat gael im' Olwenferch Yspaddaden Pencawr yn wraig. A hyn a ddymunaf oddiar law dy filwyr. Oddiar Cai, a Bedwyr, a Greidawl Galldonyd, a Gwythyr ab Greidawl, a Greid ab Eri, a Chynddelig Cyfarwydd, a Tathal Twyll Goleu, a Maelwys ab Baeddan, a Crychwr ab Nes, a Cubert ab Daero, a Percos ab Poch, a Lluber Beithach, a Corfil Berfach, a Gwyn ab Nudd, ac Edoyrn ab Nudd, a Gadwg ab Geraint, a Flowdew Fflam Wiedig, a Ruawn Pebyr ab Doreth a Bradwen ab Moren Mynawc, a Moren