Tudalen:Cymru fu.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mynawc ei hun, a Dalldefab Cimin Cof, ac ab Alun Dyfed, ac ab Saidi, ac ab Gwiyon, ac Uchtryd Ardywad Cad, a Curwas Carfagyl, a Gwrhyr Gwarthegfras, ac Isperys Ewingath, a Grallcoyt Gofynyat, a Duach, a Grathach, a Nerthach meibion Gwawrddur Cyrfach (o derfynau uffern yr hanodd y gwyr hyn); a Cilyn Glanhastyr, a Canastyr Canllaw, a Cors Cant-Ewin, ac Esgeir Gulhwch Gofyn- cawn, a Drustwm Hayarn, a Glewlwyd Gafaelfawr, a Lloch Llawrwynyawc, ac Anwas Adeiniawc, a Sinnoch ab Seithfed, a Gwenwynwyn ab Naw, a Bedyw ab Seithfed, a Gobrwy ab Echel Forddwytwll, ac Echel ei hun, a Mael ab Roycol, a Dadweir Dallpenn a Garwyli ab Gwythawr Gwy, a Gwythyr ei hun, a Gonnant ab Ricca, a Mennw ab Teirgwaedd, a Digonon ab Alar, a Selyf ab Smoit, a Gusg ab Athen, a Nerth ab Cedarn, a Drudwas ab Tryffin, a Twrch ab Perif, a Twrch ab Annwas, ac Iona brenin Ffrainc, a Sel ab Selgi, a Teregud ab Iaen, a Sulyen ab Iaen, a Bradwen ab Iaen, a Moren ab Iaen, a Siawn ab Iaeu, a Cradawc ab Iaen (gwŷr Caerdathal oeddynt hwy, perthynasau i Arthur o du ei fam); Dirmyg, Justic, Etmic, Anghawd, Ofan, Celin. Conyn, Mabsant, Gwyngad, Llwybyr, Coth, Meilic, Cynwas, Ardwyad, Ergyryad, Neb, Gilda, Calcas, Hueil (meibion Caw oedd y rhai hyn, yr hwn ni ddeisyfodd ddim erioed oddiar law arglwydd). A Samson Finsych, a Taliesin Ben Beirdd, a Manawyddan ab Llyr, a Llary ab Casnar Wledig, ac Ysperni ab Flergant, brenin Llydaw, a Sarhanon ab Glythwyr, a Llawr Eilerw, ac Annyanniawc ab Menw ab Teirgwaedd, a Gwyn ab Nwyfre. a Fflam ab Nwyfre, a Geraint ab Erbin, ac Ermid ab Erbin, a Dyfed ab Erbin, a Gwyn ab Ermin, a Cyndrwyn ab Ermin, a Hyfeidd Unllenn, ac Eiddon Fawr Frydig, a Reidwn Arwy, a Gormant ab Ricca (brawd Arthur o du ei fam; Penhynef o Gernyw oedd ei dad). A Llanrodded Farfawg, a Nodawl Faryf Twrch, a Berth ab Cado, a Rheidwn ab Beli, ac Iscofan Hael, ac Iscawin ab Panon, a Morfran ab Tegid (ni tharawes neb ef yn mrwydr Camlan oberwydd ei hyllwch; pawb a'i tybient yn ddiafol mewn cnawd. Blew oedd arno fel blew carw). A Sandde Bryd Angel (ni chyffyrddwyd ef gan y waewffon yn mrwydr Camlan oberwydd ei brydferthwch; pawb a dybient mai angel o'r nef ydoedd). A Cynwyl Sant (y trydydd dyn a ddiangodd o frwydr Camlan, a'r ddweddaf a ymadawodd âg Arthur ar Hengroen ei farch). Ac Uchtryd, Eus, Henwas Adeinawg, Henbedestyr, a Sgilti Yscawndroed (meibion Erim