Tudalen:Cymru fu.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd y rhai hyn; ac i dri o honynt y perthynai y tair cyneddf hyn; — Nid allodd dyn erioed ganlyn Henbedestyr ar draed nac ar farch; nid allodd mîl pedwar carnol erioed ganlyn Henwas Adeiniawg am un erw chwaithach yn mhellach na hyny; a Sgilti Yscawndroed pan yn myned i neges tros ei arglwydd, os byddai ei ffordd trwy goedwig, nid edrychai am lwybr, eithr ar frigau coed y cerddai, ac ni phlygodd deilen erioed tano gan mor ysgafndroed ydoedd). Teithi Hen ab Gwynhant (goresgynes y môír ei gyfoeth ef, ac o'r braidd y diangodd yntau a daeth i lys Arthur; a chyneddf oedd ar ei gyllell er pan y daeth yno — nid arosai carn byth wrth ei llafn, ac oherwydd hyn daeth haint trosto, ac y nychodd hyd farw). A Charneddyn ab Gofynon Hen, a Gwenwynwyn ab Naf Gysefin (pen campwr Arthur); a Llysgadrudd Emys, a Gwrbothu Hen (ewythrod Arthur oeddynt hwy, frodyr i'w fam). Culfanawyd ab Goryon, a Llenlleawg Wyddel o Bentir Ganion, a Dyfnwal Moel, a Dunard Frenin o'r Gogledd, Teirnon Turyf Bliant, a Tegfan Gloff, a Tegyr Tagellawg, Gwrdinal ab Elrei, a Morgant Hael Gwystyl ab Rhun ab Nwython, a Llwyddeu ab Nwython, a Gwydre ab Llwyddeu (Gwernabwy ferch Caw oedd ei fam ef. Hueil ei ewythr a'i harchollodd, ac am hyny y bu gelyniaeth rhwng Hueil ac Arthur). Drem ab Dremhidydd (a welai o'r Gelli Wig yn Nghernyw y gwybedyn yn codi yu y boreu gyda'r haul yn Blathaon, Gogledd Prydain;) ac Eidiol ab Ner, a Gwlyddyn Saer (yr hwn a gynlluniodd Ehangwen, llys Arthur); a Cynyr Ceinfarfawc (pan wybu fod iddo fab, efe a ddywedodd wrth ei briod, "Os yw dy fab di, forwyn, yn perthyn i mi, oer fydd ei galon, ac ni bydd gwres yn ei ddwylaw; a chyneddf arall bydd iddo, os mab imi ydyw, cyndyn fydd; a chyneddf arall fydd iddo, pan ddyco faich mawr neu fach, ni ddichon neb o'i flaen nac o'i ol ei weled; a chyneddf arall fydd iddo, ni bydd neb all wrthsefyll tân neu ddwfr cystal ag ef; a chyneddf arall fydd iddo, ni bydd ei well fel gwas neu swyddog). Henwas a Henwyneb (hen gydymdeithion Arthur); Gwallgwsc (un arall; pan y deuai ef i ddinas, hyd yn nod pe byddai ynddi dri chant o dai, os byddai efe mewn eisieu, nis gadawai i gwsg ddyfod at lygad gŵr tra y byddai efe yno). Berwyn ab Gerenhir, a Paris brenin Ffrainc, ac Osla Gyllellfawr (yr hwn a ddygai gydag ef ddagr fêr lydan; a phan ddelai Arthur a'i luoedd at lifddwfr, ceisid y lle cyfyngaf ar yr aig, a dodid y gyllell hon yn ei gwain ar draws y cyfwng, a digon o bont fyddai