Tudalen:Cymru fu.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ledai ei farf goch annhrefnus tros wyth trawst a deugain llys Arthur). Elidyr Gyfarwydd; Ysgyrdaf, ac Ysgudydd (deuwas i Wenhwyfar oeddynt hwy. Cyn gyflymed a'u meddyliau oedd eu traed pan ar neges). Brys ab Brethach, o Dalredynawc-du, yn Mhrydain. A Grudlwyn Gorr, Bwlch, a Cyfwlch, a Sefwlch, meibion Cleddyf Difwlch (eu tair tarian ymddisgleirient; eu tair gwaewffyn oeddynt awchus a miniog; eu tri chleddyf oeddynt rwygwyr archollion). Glas, Glessic a Gleisiad (eu tri ci, — Call, Cuall, a Cafall; eu tri march— Hwyrdyddwg, a Drwgdyddyd, a Llwyrdyddwg; eu tair gwraig — Och, a Garym, a Diaspad; eu tri ŵyrion — Lluched, a Nefed, ac Eissiwed; eu tair merch — Drwg, a Gwaeth, a Gwaethaf oll; eu tair morwyn — Eheubryd ferch Cyfwlch, Gorcascwn ferch Nerth, Ewaedau ferch Cynfelyn Ceudawd Pwyll, yr haner dyn). Dwrm Diessic Unben, Eiladyr ab Pen Llarcau, a Cenedyr Wyllt ab Heltwn Talaryanf, Sawyl Ben Uchel, Gwalchmai ab Gwyar, Gwalhafed ab Gwyar, Gwrhyr Gwastawd Ieithoedd (yr hwu a wyddai bob iaith), a Cethcrwm Offeiriad. Clustab Clustfeiniat (pe claddesid ef naw cufydd yn y ddaear, gallai glywed gwybedyn ddeng milldir o ffordd yn codi o'i lwth yn y bore). Medyr ab Methredydd o'r Gelliwig, (gallai saethu y dry w trwy ei ddwygoes hyd ar Esgeir Oerfelyn Iwerddon). Gwiawn Llygad Cath (yr hwn a allai dori pilen oddiar lygad gwybedyn yn ddiarwybod iddo). Ol ab Olwydd (saith mlynedd cyn ei eni lladratawyd moch ei dad, ac ar ol iddo dyfu yn ddyn, efe a'u holrheinies, ac a'u dygodd yn ol yn saith genfaint). A Betwini Esgob (hwn a fendigai fwyd a diod Arthur).

Er mwyn merched eurdorchog yr Ynys hon. Er mwyn Gwenhwyfar, prif rian; a Gweuhwyach ei chwaer, a Rathtyeu unig ferch Clemenhill, a Rhelemon ferch Cai, a Tanwen ferch Gweir Dathan Weiniddawg. Gwen Alarch ferch Cynwyl Canhwch. Eurneid ferch Clydno Eiddin. Eneuawc ferch Bedwyr. Eyrydreg ferch Tutfathar. Gwenwledyr ferch Gwaledyr Cyrfach, Erddudnid ferch Tryffin, Eurolwen ferch Gwedolwyn Gorr, Teleri ferch Peul, Indeg ferch Garwy Hir. Morfudd ferch Urien Rheged. Gwenllian Deg (y forwyn fawrfrydig). Creiddylad ferch Lludd Llaw Ereiut (y fenyw ardderchocaf yn nhair Ynys y cedyrn a'u tair ragynys; ac am hono y mae Gwythyr ab Greidawl a Gwyn ab Nudd yn ymladd bob dydd Calanmai hyd ddydd brawd). Elliw ferch Neol Cyn-Crog (yr hon a fu byw am dair oes). Essyllt Finwen