Tudalen:Cymru fu.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac Essyllt Fingul. A'r rhai hyn oll a dyngedodd Cilhwch ab Cilhydd i gael ei ddeisyfiad.

Yna y dywedodd Arthur, "Ha, Unben! ni chlywais i erioed am Olwen, nac am ei rhieni; eithr mi a anfonaf genhadau i'w cheisio, yn llawen, os caniatei amser imi." Ebai Cilbwch: "Caniatâf yn rhwydd hyd flwyddyn i heno." Ac Arthur a ddanfonodd genhadau i bob cwr o'r Ynys i chwilio am dani; ac yn mhen blwyddyn, dychwelasant heb gael na chwedl na chyfarwyddyd gan Olwen mwy na'r dydd cyntaf. Yna dywedodd Cilhwch, "Pawb a gawsant eu dymuniad oddigerth myfi. Ymaith yr âf, a dygaf gyda mi dy glod." "Ha, Unben!" ebai Cai, "a warthruddi di Arthur? Dyred gyda ni, ac nid ymadawn â thi hyd oni ddywedych nad ydyw y forwyn hono yn y byd, neu y caffom hi; nid ysgarwn â thi." Yna cyfododd Cai; â gallai Cai ddal ei anadl tan ddwfr am naw niwrnod a naw nos, a byw naw niwrnod a naw nos heb gysgu. Nid oedd feddyg a allai wella archoll cleddyf Cai. Medrus oedd Cai. Cyhyd â'r pren uwchaf yn y goedwig fyddai pan y mynai. Cyneddf arall iddo — mor fawr oedd gwres ei natur, pan fyddai'r gwlaw trymaf, pabethbynag a ddygai yn ei law, dyrnfedd is a dyrnfedd uwch na hwnw a fyddai sych; a phan fyddai mwyaf oerni ei gydymdeithion, byddai ef fel tân iddynt.

Galwodd Arthur ar Bedwyr, yr hwn nid arswydodd gydnegesa â Cai erioed. Cyflymach oedd ef nag ungwr yn yr Ynys hon oddieithr Arthur, a Drych, Ail Cibddar. Ac er nad oedd ganddo ond un llaw, ni thywalltai neb gymaint o waed ag ef ar faes brwydr; a chyneddf arall oedd iddo — ei waewffon a wnai archoll cymaint a naw o waewffyn eraill.

A galwodd Arthur ar Gynddelir Gyfarwydd, "Dos di gyda'r Unben i'r neges hon." Mor gyfarwydd oedd efe mewn gwledydd estronol ag yn ei wlad ei hun.

A galwodd Arthur ar Gwrhyr Gwastawd leithoedd, canys gwyddai ef bob iaith.

A galwodd Arthur ar Menaw ab Teirgwaedd, fel pan elent i wlad farbaraidd, y gallai efe daflu hud a lledrith tros y bobl, fel nas gwelent Cilhwch a'i gyfeillion, tra y gallent hwythau weled pawb.

Teithiasant hyd oni ddaethant at wastadtir eang, ar ba un yr oedd castell anferth, tecaf o holl gastellau y byd. Cerddasant y dydd hwnw hyd yr hwyr; a phan dybiasant eu bod yn ymyl y castell, nid oeddynt agosach ato yn yr hwyr nag yn y bore. Am y ddau ddiwrnod nesaf y