Tudalen:Cymru fu.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyrchu a wniaethant at dŷ Cystenyn y bugail; a phan glybu hi sŵn eu traed yn dyfod, hi a redodd i'w cyfarfod, ar'fedr eu cofleidio o lawenydd. A chipiodd Cai ddarn o bren o'r pentwr, a gosododd ef rhwng ei ddwylaw, a hi a wasgodd y pren nes y plygodd fel wden. "Ha! wraig," ebai Cai, "pe gwasgesit fi fel yna, ni roddasai neb arall ei serch arnaf. Traserch fuasai hyny." Yna aethant i'r tŷ a chawsant luniaeth; ac ar ol hyn y codasant allan i ymddifyru. Ac agorodd y wraig gist o gareg oedd ar y pentan, a chyfododd gŵr ieuanc pen melyn crycho'r gist. Ac ebai Cai, "Gresyn cuddio y gŵr ieuanc hwn: gwn nad am ddrwg ei dielir." Ebai y wraig, "Nid yw hwn. ond y gweddill; tri mab ar ugain o'm mhlant a laddodd Yspadden Pencawr; ac nid oes genyf fwy o ymddiried am hwn nag am y lleill." Ebai Cai, "Deued yn gydymaith i mi; ac nis lleddir ef oni'm lleddir inau gydag ef." Yna hwy oll a fwytasant. A gofynodd y wraig, "Ar ba neges y daethoch chwi yma?" "I erchi Olwen i'r gŵr ieuanc hwn." Ebai y wraig, "Gan nas gwelwyd chwi hyd yn hyn gan neb o'r castell, dychwelwch fel y daethoch." "Y nef sydd dyst na ddychwelwn ni hyd oni welom y forwyn." Ebai Cai, " A ddaw hi yma fel y gwelom hi?" "Hi a ddaw yma bob dydd Sadwrn i olchi ei phen; ac yn y llestri yr ymylch y gedy hi ei modrwyau, ac ni chyrch hi na'i morwynion hwynt drachefn. Ond y nef ŵyr, ni niweidiaf fi fy enaid, ac ni thwyllaf a'm cret to, oni thyngwch na bydd i chwi wneud cam â hi." "Rhoddwn ein gair," ebynt hwythau. A danfonwyd i gyrchu y forwyn.

Pan ddaeth, gwisg o sidan fflangoch oedd am dani, a chadwen o ruddaur a pherlau emrald oedd am ei gwddf; melynach oedd ei phen na blodau y danadl, a gwynach ei chroen nag ewyn y don. Tecach oedd ei dwylaw a'i bysedd na blodau'r anemoni yn ewyn ffynon gweirglodd. Dysgleiriach oedd ei llygaid na golwg y gwalch a'r hebog. Gwynach oedd ei dwyfron na bron yr alarch gwyn. Coch ach ei dwyrudd na'r claret cochaf. Y sawl a'i gwelai, cyflawn fyddai o'i serch. Pedair o feillion gwynion a dyfent yn ôl ei throed, pa ffordd bynag y cerddai; ac am hyny y gelwid hi Olwen. Yna hi a ddaeth i fewn i'r tŷ, ac a eisteddodd wrth ochr Cilhwch ar ben uwchaf y fainc; ac mor fuan ag y gwelodd hi efe a'i hadwaenodd. Ebai Cilhwch, "Ha, ferch! myfi a'th gerais; a rhag ein henllibio, tyred ymaith gyda mi. Er's llawer dydd y'th gerais." "Nis gallaf wneuthur