Tudalen:Cymru fu.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny, canys gwnaethym adduned â'm tad nad ymadawn âg ef heb ei ganiatâd; oblegyd y dydd yr ymbriodwyf y cyll efe ei hoedl. Y sydd, y sydd. Èithr rhoddaf gynghor it': — Dos at fy nhad, a deisyf fi ganddo; a chaniata bob peth a ofyn genyt, a thi a'm cei inau; eithr os gwrthodi iddo un peth, mi nis cei; a ffodus fyddi os diengi a'th einioes genyt." "Addunedaf hyn oll a llwyddaf," ebai Cilhwch. Yna hi a ddychwelodd i'w hystafell, a chodasant hwythau oll, a daethant hyd at y castell. A lladdasant y naw porthor ag oedd wrth y naw porth yn berffaith ddigynhwrf, a'r naw gwaedgi heb i un ohonynt gyfarth; ac aethant i'r neuadd. "Henffych well o nef a daear it', Yspaddaden Pencawr, "ebynt hwy. " I ba beth y daethoch chwi yma?" " Daethom i erchi Olwen yn wraig i Cilhwch ab Cilydd ab Celyddon." "Pa le y mae'm gweision a'm porthorion? Dyrchefwch y ffyrch o dan fy nwy ael, modd y gwelwyf ddull fy mab-yn-nghyfraith." Hyny a wnaethant. " Deuwch y fory a chewch atebiad." Cyfodasant i fyned ymaith, a gafaelodd Yspaddaden Pencawr yn un o'r saethau gwenwynig oeddwrth ei ochr, ac a'i lluchiodd atynt. Daliodd Bedwyr hi, a thaflodd hi yn ol, gan ffyrnig archolli Yspaddaden yn ei lin. " Mab-yn nghyfraith anfwyn yn sicr. Gwaeth y cerddaf oherwydd yr archoll hwn, ac nid oes iddo feddyginiaeth. Fel brath cacynen y meirch ydynt arteithiau yr haiarn gwenwynig hwn. Melldigedig y gôf a'i curodd, a'r eingion ar ba un ei curwyd. Mor dost ydyw!"

Y noson hono lletyasant yn nhŷ Cystenyn y bugail; a chyda chodiad haul dranoeth ymdrwsiasant a daethant i neuadd y castell, a dywedasant, " Yspaddaden Pencawr, dyro dy ferch i ni, a ninau a ddychwelwn ei thlysau a'i hamor (marriage dowry) iti a'i dwy gares. Ac oni roddi, dy einioes a golli trwy hyny." Ebai yntau, "Y mae ei phedair gorhen-nain a'i phedwar gorhendaid eto yn fyw; a rhaid i mi yn gyntaf ymgynghori â hwynt." "Gwna hyny," ebynt hwythau, "awn ninau at fwyd." Ac fel y cyfodant i fyned ymaith, efe a gymerth yr ail saeth oedd wrth ei ochr, ac a'i lluchiodd ar eu holau. Daliwyd hi gan Menaw ab Teirgwaedd, a thaflodd hi yn ol ato, gan ei archolli yn ei ddwyfron nes y treiddiodd allan trwy ei feingefn. "O fab-yn-nghyfraith creulon a melldigedig! Arteithiau yr haiarn caled ydynt fel brathiad cacynen y meirch. Melldigedig y pentan ar ba un ei twymwyd, a'r gof a'i ffurfiodd. Mor dost ydyw! Bellach pan ddringwyf