Tudalen:Cymru fu.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allt, cyfyng fydd ar fy anadl, a phoenus fy nwyfron, a'm cylla yn ddrwg, a diffyg archwaeth." Yna hwy a'i gadawsant, ac a aethant at eu bwyd.

A'r trydydd dydd, pan ddaethant i'r palas, dywedai Yspadden Pencawr, "Na saethwch ataf yn rhagor, os na ddeisyfwch angau. Pa le y mae fy ngweision? Dyrchefwch y ffyrch o dan fy nwy ael, modd y gwelwyf agwedd fy mab-yn-nghyfraith."Hyny a wnaethant; ac fel y gwnelent hyny, cymerodd Yspadden Pencawr y drydedd saeth wenwynig, ac a'i lluchiodd atynt; a daliodd Cilhwch hi, ac a'i tarodd gydag yni yn ol, ac a archollodd Yspadden yn afal ei lygad, nes yr aeth y saeth allan trwy ei wegil. " Mab-yn-nghyfraith, anfwyn a melldigedig! Gwaeth fydd golwg fy llygaid tra fydd- wyf byw; pan elwyf yn erbyn y gwynt, dyfrio a wna, a'r bendro a gaf bob newydd-loer. Melldigedig y tân yn mha un ei twymwyd. Fel brathiad ci cynddeiriog ydyw archoll yr haiarn gwenwynig hwn." Yna aethant at fwyd. A thranoeth, daethant i'r palas, a dywedasant, " Na saetha atom yn rhagor, oni chwenychi ychwaneg o arteithiau a phoenau, ac hyd yn nod dy angau. Dyro dy ferch ini; ac oni roddi hi, dy einioes a golli o'i herwydd." "Pa le mae yr hwn a gais fy merch? Deued yma, modd ei gwelwyf." A dodasant gadair i Cilhwch wyneb yn wyneb âg ef.

Ebai Yspadden Pencawr, "Ai tydi a erchi fy merch i?" " le myfi," ebai Cilhwch. "Ehaid i mi gael llŵ genyt yr ymddygi yn gyfiawn tuag ataf; a phan gaffwyf a ddeisyfwyf genyt, tithau a gei fy merch." " Addawaf hyny ynllaweu, deisyfaddeisyfychgenyf," ebai Cilhwch.

"Wel, a weli di y garth mawr acw?" "Gwelaf." "Ei ddiwreiddio o'r ddaear a fynaf, a'i losgi yn wrtaith ar wyneb y tir, a'i fraenaru a'i hau, ac addfedu o'i gnwd a hyny oll mewn un dydd. Ac o'r grawn hwnw y mynaf wneuthur bwyd a diod i'th neithior di a'm merch. A hyn oll a fynaf ei wneuthur mewn un dydd."

" Rhwydd y gwneir hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

" Er y ceffi di hyny, y mae nas ceffych. T mae y tir hwn mor wyllt, fel nad oes amaethwr ond Amaethon ab Don a dichon ei arloesi; ac o'i fodd ni ddaw efe, ac o'i anfodd nis gelli dithau ei orfodi." " Ehwydd y ceir hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

" Er y ceffi di hyny, y mae nas ceffych, Gofannon ab Don i ddyfod i ben y tir i arbed yr haiarn; ni wna efe waith