Tudalen:Cymru fu.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyddanu y noson hono. Pan chwenycher, canu a wna ei hunan; a phan ewyllysier iddi beidio, y paid. O'i fodd ni rydd efe hi, ac o'i anfodd nis gelli ei chymeryd."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er y ceffi hyn, y mae nas ceflPych. Pair Diwrnach Wyddel, maer Ödgar, a mab i Aedd brenin Iwerddon, i ferwi y cigfwyd at dy neithior.""Hawdd y caf hyny."

"Er y ceffi di hyny, y mae nas ceffych. Angenrhaid fydd i mi olchi fy mhen a thori fy marf, a dant Ysgythyrwyn Benbaedd a fynaf i ymeillio, ac ni fydd o les oni thynir ef o'i ben ac yntau yn fyw."

"Hawdd y gellir hyny."

"Er, &c. Nid oes neb yn y byd all dynu y dant o'i ben namyn Odgar ab Aedd, brenin Iwerddon."

"Hawdd y gellir hyny."

"Er, &c. Nid ymddiriedaf neb i gadw yr Ysgythrddant namyn Gado o Ogledd Prydain. Arglwydd yw ef ar driugain cantref y Gogledd, ac o'i fodd ni ddaw efe allan o'i deyrnas, ac nis gelli dithau ei ddwyn trwy drais."

"Hawdd y gellir hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

"Er, &c. Rhaid imi ymledu fy ngwallt cyn ei eillo, ac nid ymleda byth o ni chaf waed y Widdon (sorceress) Orddu, ferch y Widdon Orwen, o Ben Nant Gofìd, ar gyffiniau uffern."

"Hawdd y caf hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

"Er, &c. Ni fynaf y gwaed oni chaf ef yn gynhes, ac ni cheidw yn gynhes oddigerth yn nghostrelau Grwyddolwyn Gorr, y rhai a gadwant y gwres pe rhoddid yr hylif ynddynt yn y Dwyrain hyd oni ddygid ef i'r Gorllewin. Ac o'i fodd ni rydd efe hwynt, ac o'i anfodd nis gelli dithau eu cymeryd."

"Hawdd y gellir hyny."

"Er, &c. Nid oes trwy yr holl fyd grib a gwellaif y gallaf drin fy ngwallt â hwynt, gan mor fras ei dyfiant, namyn y crib a'r gwellaif sydd rhwng dwy glust y Twrch Trwyth ab Tared Wledig. Ni rydd efe hwynt o'i fodd, ac o'i anfodd nis gelli dithau eu cymeryd."

"Hawdd y gellir hyny."

"Er, &c. Nis gellir hela y Twrch Trwyth oni cheir Grutwyn, cenaw Greid ab Eri."

"Er, &c. Nid oes yn y byd gynllyfan [carai â pha un y daliai yr hebogydd yr hebog] a ddeil y Twrch Trwyth namyn cynllyfan Cwrs Cant Ewin." "Hawdd y ceir hono."